Page images
PDF
EPUB

Yn nes nes at y dibyn,

Ir fy oes, ond angeu sydd

Eisoes wedi crino

I'M nerth, ac O, gerllaw mae'r dydd
Pan raid syrthio.

ac yn nes eto fyth,—

Cul, cul a chaead yw y glyn,

a'r gobeithion oll a'r dymuniadau wedi mynd,

Ac O mor chwerw-lym y loes
O'u gweld yn gwywo.
Cul, cul ddiobaith yw y glyn,—

Byth nid oes modd ei ddringo'n ol
I'r iechyd a'r dedwyddwch fu'n
Fy ngwarchod unwaith yn eu côl,
Na syflyd cam o'r man yr wy'
Yn hiraeth-syllu ar fy ol
Am ennyd cyn anturio trwy
Y dyfroedd oerion.

Ar y diwedd y mae'n gofyn i'r Nef dderbyn

Ar Dy allor galon ysig

A chystuddiol, sydd yn dioddef
Beunydd boenau siomedigaeth
Fil mwy chwerw na marwolaeth.

A dyma'r gair olaf,—

O fy Nuw, 'rwyf wedi dioddef
Dyro bellach im' dangnefedd,

gair olaf bachgen ieuanc wedi hir gystudd yn marw, heb weld erioed fawr ond chwerwder yn ei fywyd.

Yma y gorffwyswn; tawed yr awen ieuanc am y tro. Nid yw'r iaith bob amser yn gref, nid yw bob amser yn dlos, na'r gosodiad bob amser o'r goreu, ond er mai "melusaf y can eos," eto "nid erchis Duw i'r frân dewi," ac y mae rhyw fwyniant ym mhob peth i'r sawl a fyn chwilio am dano-" Sermons in stones, and good in every thing." Onid oes berlau gan y beirdd bach hefyd ?

Bangor.

ARTHUR HUGHES.

NODION LLENYDDOL A DIWINYDDOL.

HANES DIWYGIADAU CREFYDDOL CYMRU. Gan y Parch. Henry Hughes. Cwmni'r Wasg Genedlaethol, Caernarfon. Pris, 4s. 6c.

Mae cynllun y llyfr hwn yn un eang. Gan ddechreu gyda chyffroadau amser Enos a'r Patriarchiaid, fe ddaw heibio i Fynachaeth a symudiadau eraill, gan gyffwrdd ar ei ffordd y Diwygiad Protestanaidd a'r un Puritanaidd, ac aros peth gyda gwaith yr Anghydffurfwyr a Griffith Jones, Llanddowror, cyn disgyn ohono ar y Diwygiad Methodistaidd a'r diwygiadau a darddodd allan o hwnnw. Mae'r gair diwygiad wedi hud-ddenu yr ysgrifennydd oddiar ei lwybr braidd, gan ber iddo ymdrin yn yr un dôn am y fath gyffroad ym myd meddwl ac yn adeilwaith cymdeithas â'r Diwygiad Protestanaidd, ag am gyffroadau cyffredin gyda chrefydd, yn digwydd bob rhyw ychydig o flynyddoedd. Un peth y mae'r sawl sydd mewn unrhyw fesur yn gydnabyddus â thymeredd grefyddol rhai o'r enwadau Seisnig yn rhwym o deimlo gwrthwyneb iddo, ydyw osgo meddwl cyson yr awdwr at y genedl Seisnig fel un y gallesid tybio bod rhyw wrthnaws braidd ynddi tuag at ddiwygiad crefyddol. (Gweler, er enghraifft, t. 316, 352, 389.) Y gwirionedd ydyw bod cyffroadau crefyddol lleol yn bethau tra mynych yn hanes rhai enwadau ym mhlith y Saeson, ac mai nid anhysbys ydyw hanes cyffroadau nerthol, yn oes rhai yn fyw yn awr, yn ymestyn tros boblogaeth cymaiut neu fwy nag eiddo Cymru. Fe fuasai bod mewn cyfarfod gweddi gyda'r Methodistiaid Cyntefig, a hynny ar adeg dawel gyda chrefydd, yn agoriad llygaid i liaws a soniant am y "Saeson oerion." Go galed yw'r awdwr ar y Pabyddion. Rhyfedda weled gwawr diwygiad yn tarddu o fynachlog, er y dengys yr hanes a rydd ef ei hun nad peth mor ddieithr ydoedd hynny; a chymer y Babaeth" a'r "byd Cristionogol eu lle yn ei feddwl fel hanfodau gwrthgroes i'w gilydd (t. 34-5 er enghraifft), a hynny hyd yn oed o flaen toriad allan y Diwygiad Protestanaidd. Gall fod perthynas rhwng diwygiad crefyddol a diwygiad politicaidd, heb i'r cyntaf fod bob amser yn achos o'r olaf, fel y myntymia'r awdwr mewn lliaws o gysylltiadau.

"

[ocr errors]

Mae'r llyfr wedi ei ysgrifennu mewn arddull rydd a rhwydd, a dengys yr awdwr ofal canmoladwy am ei amseriadau. Nodweddir y llyfr, hefyd, gan gysondeb hanesyddol, yn enwedig ar ol dyfod ohono at ei wir destyn, yn hanes dechreuad y diwygiad Methodistaidd. Mae rhwyddineb ymgomiol yr ysgrifennydd yn myned yn llacrwydd mewn geiriad a chyfansoddiad ar brydiau. Mae pennod xv. yn hongian yn llac yn ei lle, a gallesid ei gadael allan yn ei hyd heb golli dim braidd nad ydyw i'w gael mewn mannau eraill o'r llyfr. Nid yw'r darllennydd fyth yn cael ei adael mewn petrusdod gwirioneddol am yr ystyr, yr hyn, rhaid addef sy'n llawer o beth; ond fe allasai ar achlysur chwennych braidd fwy o fanyldeb yn y geiriad, megys yn yr adroddiad yma, er enghraifft: “Yn ei helbul fe gollodd ei het. A thrafferth fawr a fu ei chael, a hefyd i gael allan pwy ydoedd. Aeth adref o'r diwedd a'i galon yn fflam, etc.” (t. 336.)

Gwneir y llyfr hwn i fyny i raddau go fawr o ddyfyniadau o lyfrau blaenorol; ond nid diffyg mo hynny mewn llyfr a fwriadwyd, yn ddiau, i gyflenwi yr angen presennol, sef awydd pobl ieuainc a ddeffrowyd yn y diwygiad diweddar am wybod hanes diwygiadau eu gwlad. Hwy gânt hynny yma wedi ei gyfleu ger eu bron mewn dull eithaf difyr, ac yn ysbryd y pwnc ei hunan. Fe gynhwysa'r hanes liaws mawr o brofiadau tra hynod yn hanes meddwl dyn, a chyfryw, hefyd, ag sy'n gafaddas i ddeffro ystyriaethau dwysion.

Ychydig linellau yn unig a geir am y diwygiad diweddar, ac am lafur Richard Owen a diwygwyr cyfnod Moody a Sankey, Fe allsai'r awdwr, pe

rhoddasai'r llafur gofynol ar hynny, ddwyn allan lyfr ar y materion olaf hyn a fuasai ar ryw ystyriaeth o lawer mwy gwerth hyd yn oed na'r gyfrol bresennol, yn gymaint ag y cynhwysai hwnnw fwy o ffrwyth ei sylwadaeth uniongyrchol ef ei hunan. W. H.

ESBONIAD Y BREGETH AR Y MYNYDD. Gan y Parch. R. Jones (Glan Alaw). Pris, Swllt nett.

Mae pwnc yr Esboniad hwn i liaws o bobl y dernyn mwyaf swynol yn holl gylch y datguddiad dwyfol. Ac yn ddiau fe berthyn i'r Bregeth ar y Mynydd rhyw neilltuolrwydd ar bob rhan arall o'r Beibl. Y mae yn cynhwys y traethiad helaethaf o enau yr Arglwydd Iesu ei hun ar egwyddorion cyffredinol ei Deyrnas, a hynny oddiar safle cychwyniad ei weinidogaeth, pan nad yw'r olygta ar y ddaear wedi cilio o'r golwg yng ngwawl yr ysbrydol pur. Cyflawnder yr addysg oddiar y safle neilltuol yma, a hynny yn uniongyrchol o enau Brenin y Deyrnas ei hun, sy'n rhoi ei harbenigrwydd i'r gyfran hon o'r Ysgrythyr. Mae'r Esboniad hwn yn allwedd i ystyr y Bregeth, nid yr ystyr allanol yn unig ond y mewnol hefyd, cynbelled ag mae hynny i edrych am dano mewn llyfr. Mae'r swyn a berthyn i'r pwnc yn hawlio ystyriaeth i'r llyfr hefyd, yn enwedig gan nad oes ond ychydig yn yr iaith Gymraeg hyd yma wedi ei ysgrifennu yn arbennig ar y pwnc hwnnw. Yr ydys, ar y cyfrif hwnnw, yn rhoi derbyniad mwy awchus i'r Esboniad hwn; ac ar ol troi i mewn iddo ni'n siomir ni yn ein disgwyliad. Mae'r traethawd rhagarweiniol, ynghyd â'r nodiadau esboniadol sy'n dilyn, yn oleu-fynag helaethlawn i ystyr a chynnwys y Bregeth. Fe gynwysir yma olygiad teg ar egwyddorion cyffredinol cystal ag ar fanion beirniadaeth. Mae'r oll hefyd wedi ei gyfleu mewn arddull gryno, ac mewn tôn ac ysbryd yn cydweddu â phwnc y llyfr. Fe geir ar achlysur, hefyd, rhyw fflach neu gilydd yn goleuo i bellteroedd. Gresyn fyddai i fechgyn ieuainc yr Ysgol Sul golli'r cymhorth i fyned i mewn i'r Bregeth ar y Mynydd a ellir ei sicrhau yn yr Esboniad hwn. Mae'r llyfr, o ran ei wedd allanol, wedi ei ddwyn allan yn dlws, ac mae'r pris yn rhy isel i sicrhau nemor fudd arianol i'r awdwr. W. HOBLEY.

YR ARWEINYDD DWYFOL, sef Myfyrdodau ar yr Ysbryd Glân a'i Waith. Gan H. Cernyw Williams, Corwen. W. Williams, Llangollen, 2/6 net.

Mae y llyfr hwn yn cynnwys trafodaeth amserol ar un o'r materion pwysicaf. Mae gogwydd ac ymchwiliadau meddyliol y blynyddoedd diweddaf yn ein gorfodi i wynebu pynciau diwinyddiaeth o'r newydd. Cwyd anhawsterau newyddion oddiwrth feirniadaeth, gwyddoniaeth, a chyfeiriadau ereill; ond daw goleuni newydd o ffynonellau na fuasid yn disgwyl am dano. Felly rhaid ail-gerdded dros y tir, rhaid dal pob cwestiwn ac anhawster yng ngwyneb yr holl oleuni ag sydd yn cael ei daflu arnynt. Ac nid oedd odid bwnc a mwy o angen ei ailystyried na'r "Ysbryd Glân a'i Waith." Yr oedd galw am ail-fyned drwy lenyddiaeth y Beibl er mwyn cael dysgeidiaeth ei ysgrifennwyr yn eu gwahanol gyfnodau ar yr Ysbryd Dwyfol. Ni raid ond darllen "The Spirit of God in Biblical Literature" (Irving Wood) a'i gymharu gyda "The Doctrine of the Holy Spirit" (Smeaton) na welir y gwaith oedd i'w wneud yn y cyfeiriad yna. Ond yn fwy na dim, mae yr ymchwiliadau diweddar ym myd yr enaid wedi codi llu o gwestiynnau ynglyn â gwaith yr Ysbryd i dir o bwysigrwydd a dyddordeb mawr. Gan fod yr Ysbryd Glân yn ymwneud â'r dyn oddimewn, ac yn cyflawni ei waith ar linell deddfau cyffredin y meddwl, mae gan PSYCHOLOGY rywbeth i w udweyd am ein profiadau crefyddol. A gallwn ddisgwyl iw hymchwiliadau daflu llawer o oleuni gwerthfawr ar berthynas yr Ysbryd Dwyfol â'n hysbrydoedd ni, a'i ddull o wneud ei waith. A phrin y bydd unrhyw drafodaeth ar waith yr Ysbryd yn

foddhaol bellach heb gymeryd darganfyddiadau a goleuni y gangen hon o wyddoniaeth i ystyriaeth.

Yn awr, da gennym groesawu cyfrol yn Gymraeg ag sydd yn ymdrin â'r pwnc yn ei weddau mwyaf eang a diweddar. Gofala yr awdwr am ein cymeryd "at y Gair ac at y dystiolaeth." Yn rhan flaenaf y llyfr cawn drem ar yr Ysbryd yn yr Hen Destament, yn cael ei dilyn gan ddysgeidiaeth y Cydolygwyr, a'r Bedwaredd Efengyl ynghyd â thystiolaeth Epistolau Paul a Llyfr yr Actau. Tra yn chwilio am oleuni'r Beibl gydag awch gwyddonydd am ffeithiau, ac er yn cyffwrdd â phwyntiau dyrus, mae y drafodaeth ar hyd y daith yn un addfed a chlir. Nid yw damcaniaethau unochrog yn hudo'r awdwr, nac yn ei ddychrynu Medr weled y gwir sydd ymhob amcan-dyb, a gwyr sut i gadw ar ganol y ffordd Mae rhan helaeth o'r gyfrol yn ymdrin â "Gwaith " yr Ysbryd yn ei wahanol weddau; ac ystyriwn yr adran hon yn un werthfawr iawn. Ceir amryw benodau ar faterion ag sydd yn dra newydd ir darllennydd Cymreig uniaith. Yn wir, nid yw diwinyddion Saesnig wedi gwneud rhyw gymaint i wynebu rhai o'r cwestiynnau pwysig godir yma. Cymerer y tair pennod ar Fewnfodaeth Duw ; Is-ymwybyddiaeth; a Chyfriniaeth. Pe buasai Mr. Cernyw Williams wedi gwneud dim ond dangos perthynas yr Ysbryd Glân â thiriogaethau dieithr Is-ymwybyddiaeth a Chyfriniaeth, buasai wedi cyflawni gwasanaeth pwysig i ddiwinyddiaeth Cymru. Pan beidiodd y Crynwyr a bod yn allu ym mywyd Cymru, collwyd yr Athraw allasai ein tywys i'r dirgelion hyn. Ond credwn y gwna penodau "Yr Arweinydd Dwyfol" ein dwyn i olrhain gweithrediadau yr Ysbryd Sanctaidd ar lwybrau mwyaf cudd ein profiad mewnol.

Er fod y gyfrol yn trafod y pynciau dyfnaf, mae yr ymdriniaeth yn loew a dyddorol. Gwae y llyfr ar ddiwinyddiaeth yn y ganrif newydd os y bydd yn sych a thywyll! Nid un felly yw hon. Trwy gymorth iaith lân a brawddegau prydferth, mae y llenor profiadol wedi gwneud “Bydded goleuni" yn arwyddair ar hyd y ffordd. Mae yr awdwr yn fyw i bob awel sydd yn chwythu yn awyr feddyliol ei gyfnod. Llyfr byw, yn siarad i'r amserau, ydyw. A diau y bydd yn help mawr lawer meddwl ymchwilgar. Er nad yw yr awdwr yn proffesu ymlid ar ol rhai bwganod godwyd yn ddiweddar, credwn y bydd tôn a rhediad y gyfrol yn cadarnhau llawer calon ac yn ennyn dyddordeb newydd yn nyfnion bethau Duw. Cymeradwywn hi yn galonnog i bob efrydydd o'r Beibl. R. G. R.

Derbyniwyd hefyd

CYSONDEB Y FFYDD. II. Gyfrol, gan y Parch. J. Cynddylan Jones, D.D. 3/6 net.

ST. JUDE, by Ian Maclaren. London: R. T. S. Price, 6/-. GREAT TEXTS of the New TESTAMENT, by Various Authors. Manchester Jas. Robinson. 3/6 net.

DICTIONARY OF EMINENT WELSHMEN. Parts I. and II. 9d. each. The Educational Publishing Co., Cardiff and Merthyr.

THE WELSH READER, by Thomas Jones, Tonypandy. Newport: J. E. Southall. Price, 1/6.

THE DUTIES OF MAN AND OTHER ESSAYS by J. Mazzini, with an Introduction by Thomas Jones, M.A. (Every Man's Library. J. M. Dent and Co.) 1/- net.

THE GOSPEL HISTORY AND ITS TRANSMISSION, by F. C. Burkitt. Clark. Price, 6s. net.

T. and T.

THE MORRIS' LETTERS. Part III. Edited by J. H. Davies, M.A. Oxford: Fox, Jones, and Co. Price, 5/-.

THE HIBBERT Journal.

THE EXPOSITORY TIMES

[graphic]
« PreviousContinue »