Page images
PDF
EPUB

O'R NEILLTU.

HWYRACH y dylai dyn ymgroesi rhag son am bwnc y bu cymaint o ddadleu arno ag a fu ar "Ossian " Macpherson, a'r dadleu hwnnw hefyd rhwng gwyr mor enwog. Er hynny, y mae arnaf flys rhyfygu dywedyd gair arno, nid am fod gennyf unrhyw oleuni newydd i'w daflu ar bwnc y ddadl, ond oblegyd yr hyfrydwch a gefais yn ddiweddar wrth ddarllen y cerddi ynghanol golygfeydd naturiol tebyg i'r rhai a ddisgrifir bron ymhob un ohonynt. Yn yr awyr agored yr oedd awdwr y cerddi yn byw ac yn canu, pa un bynnag ai Ossian yn y drydedd ganrif a'i Macpherson yn y ddeunawfed ydoedd, ac y mae'r awyr agored yn iachus i lenyddiaeth yn gystal ag i ddynion wedi bod ormod i fewn.

Hyd yn oed os nad oedd gan Macpherson ddefnydd yn y byd tan ei ddwylaw amgen na rhyw draddodiadau moelion, ac os mai ei waith ef ei hun yn ei grynswth, fel y mynnai Dr. Johnson ac eraill, yw'r cerddi a gyhoeddodd ef fel cyfieithiadau o waith Ossian, nid isel a fyddai lle Macpherson ym mysg beirdd y byd. Yn wir, buasai bod wedi gwneud y cerddi yn llawer mwy o glod iddo na bod wedi eu trosi i'r Saesneg, ac wrth ladd arno, yr oedd ei feirniaid mewn gwirionedd yn ei wneud yn fwy dyn ac nid yn llai. Daeth tro ar farn y Saeson am farddoniaeth Natur wedi i Wordsworth ganu iddynt beth a ganodd beirdd Cymru, Iwerddon, a'r Alban er's cannoedd o flynyddau; ond ni chwbl symudodd hynny effaith rhagfarn oracl mawr Fleet-street yn erbyn y cerddi a gyfieithodd neu a wnaeth Macpherson-ni waeth pa un ai eu cyfieithydd ai eu hawdwr ydoedd cyn belled ag y mae a wnelo beirniadaeth â gwerth eu cynnwys.

Wedi hir daeru, cyhoeddwyd y cerddi cysefin flynyddau yn ol, ond ni roes hyd yn oed hynny derfyn ar y ddadl, canys y mae rhai beirniaid dysgedig yn dal mai eu troi i'r Gaeleg o Saesneg Macpherson a wnaed, am fod ynddynt, meddant hwy, rai priod ddulliau dieithr i'r Gaeleg. Nid wyf fi yn medru digon o Gaeleg i farnu trosof fy hun, ond hyd yn oed pe profid fod ynddynt rai priod ddulliau dieithr gwaith go anodd i neb ei wneud ond a fedrai yr iaith o'i febyd ac a fyddai yn ysgolhaig go wych hefyd—ni byddai hynny ynddo ei hun yn ddigon o reswm dros gyhuddo Macpherson o dwyll mor aruthr ac mor wrthun hefyd. Onid ellid, er engraifft, yn hawdd ddwyn cannoedd o briod ddulliau dieithr i ddangos mai pethau wedi eu troi o'r Saesneg yw rhan fawr o brôs a phrydyddiaeth y ganrif ddiweddaf yng Nghymru, er nad dyna ydynt mewn gwirionedd? Yn ol pob tystiolaeth, nid oedd Macpherson yn medru Gaeleg yn ddigon da i allu canu'r cerddi a gyhoeddwyd fel y rhai a gyfieith.

odd ef i'r Saesneg; ac os eu casglu oddi ar leferydd a wnaeth, buasai yn debyg o adael ol ei ddiffygion ar ei gopïau.

O'm rhan fy hun, nid wyf yn ameu dim nad oedd gan Mac. pherson yn ei feddiant hen gerddi, a gafodd ar lafar gwlad fel y dywed ei hun, ae os darfu iddo hyd ryw fesur eu trwsio wrth eu trosi, dylid cofio nad ysgolhaig moel yn amcanu rhoi cyfieithiad llythrennol, a dim ond hynny, ydoedd ef. Heb son dim am gyfieithiadau lleicion fel cyfieithiad Pope o Homer, dywed ysgolheigion am waith cain fel cyfieithiad Fitzgerald o Rubaiyat Omar Khayyam, fod ynddo gryn lawer o bethau nad ydynt yn y gerdd gysefin; ond ni ddanghosodd beirniaid Seisnig, hyd y gwelais i, ddim dig at Fitz. gerald oblegyd hynny ; ac nid teg yr achwynai neb arno ychwaith am a wnaeth, a'i waith yntau yn y diwedd mor wir odidog. Os gwnaeth Macpherson beth tebyg â cherddi Ossian, anodd gwybod paham y dylasid beio mwy arno ef gynt nag yr ydys yn ei feio ar Fitzgerald heddyw. Ond yr oedd y "Mac" yn ddigon i darfu holl fyd Fleet-street y pryd hwnnw, ac y mae mwy o ganlyn y ffasiwn mewn beirniadaeth lenyddol nag y mae llawer yn ei feddwl.

Ond nid wrth y tân ynghanol fy llyfrau yn araf ddarllen y Gaeleg anghynefin wrth oleuni lamp yr oeddwn, ond ar ben y mynydd ynghanol y grug a'r rhedyn, a'r “gwynt yn fy ngwallt," yn darllen Saesneg Macpherson wrth oleuni'r haul; a'm bwriad oedd son, nid am farn goleuni lamp, ond am fardd goleuni haul.

Wrth grwydro yma ac acw i chwilio am iechyd, deuthum yn nes at Natur nag hyd yn oed pan oeddwn farbariad o hogyn yn y coed, ac ar y rhos o fore hyd nos Gwelais haf, hydref, a gaeaf ar y mynyddau ac yn y coedydd; ac ni chyfrifwn i fy hoedl yn ofer pe cawn ei threulio hyd ei diwedd heb wneuthur dim ond gwylio heulwen a chwmwl a niwl a glaw, a dyfod i adnabod mwsogl a rhedyn, blodau a choed, gwybed ac adar, a'r mân anifeiliaid gwylltion sydd eto heb eu difa gan fawrion segur Cymru, a'r Saeson y sydd, ar ol gwneud arian trwy werthu diod neu rywbeth arall, yn dyfod yma i geisio eu dynwared.

Un diwrnod ym Mehefin, gorweddais a chysgais yn y grug ar Fynydd Hiraethog. Pan ddeffroais, clywais su drist y gwynt drwy frigau mân y grug, a gwybum fod gwaed fy hynafiaid, a fu'n hely ac yn ymladd, yn byw ac yn marw yno oesau yn ol, eto yn cerdded yn gryf yn fy ngwythi innau. Daeth arnaf hiraeth mwy nag erioed am y bywyd gwyllt hwnnw gynt, am yr hely a'r ymladd, y caru a'r cashau, y canu a'r cwyno, bywyd nad oes ond ychydig gofion am dano mewn llenyddiaeth. "Nid engis Bendigeidran mewn tŷ erioed," ebr atgof hwyr am y bywyd pell hwnnw.

Cofiais yr hyfrydwch a gawswn yn hogyn wrth ddarllen Ossian. Darllennais ef drachefn, ac ni'm siomodd (ychwaith. Pobl yn byw

allan yw arwyr Ossian (neu Macpherson, os mynnir). Gyda hwy, y mae dyn yn anghofio offis a siop, ffordd haearn a char motor, het silc a chôt laes, a moddion a dulliau tebyg o wneud arian, i rywun arall os nad iddo ef ei hun. Mae dyn yn blino weithiau, hwyrach, ar ymffrost rhai o areithiau yr hen arwyr hyn, ond nid cymaint o lawer ag ar ymffrost yr areithiau y bydd pobl yn gofyn i chwi bob dydd a fyddwch wedi eu darllen. Pan fo'r hen benaethiaid yn eu herio eu gilydd i ymladd, maent yn dra bostfawr yn aml, ond y maent yn ymladd, ac yn gyffredin yn ymddwyn yn hael at y gorchfysedig. Ac y mae hyd yn oed eu bost yn farddonol, megis eiddo Calmar, un o benaethiaid Cuchulainn:

"Cormar was the first of my race. He sported through the storms of waves. His black skiff bo inded on ocean; he travelled on the wings of the wind. A spirit once enbroiled the night. Seas swell, and rocks resound. Winds drive along the clouds. The lightning flies on wings of fire. He feared and came to land; then blushed that he feared at all. He rushed again among the waves to find the son of the wind. When the low-hung vapour passed, he took it by the curling head. He searched its dark womb with his steel. The son of the wind forsook the air. The moon and stars returned! Such was the boldness of my race. Calmar is like his fathers." (Fingal, Book III.) Hwyrach fy mod i yn gweled gormod yn hanes hynafiaid Calmar, ond y mae ynddo rywbeth tebyg iawn i atgof am yr ymdrech bell rhwng dyn â'r môr, yr un ymdrech ag y canodd y bardd clasurol am dani :

[blocks in formation]

Mae rhywbeth yn syml a dihoced iawn yn yr addefiad fod Cormar wedi ofni a glanio, ac y mae gwir ddewrineb yn ei waith yn mynd yn ei ol i wyneb ei berygl. Er fod ysbrydion eu tadau yn ym-' ddangos i'r penaethiaid yn aml, ac yn eu rhybuddio am a ddigwyddai, nid ofnai Cuchulainn hwythau ychwaith, ac ni fynnai iddynt son am bennaeth Erin. "Anghofier fi yn eu hogof," eb efe. Ac nid gormod gan Fingal yntau herio a threchu "ysbryd Loda"-un o dduwiau Llychİyn, meddir-â'i gleddyf. Nid allaf fi ychwaith beidio â chydyndeimlo âg ef :

[ocr errors]

Dwell thou in thy pleasant fields, said the king; let Comhal's son be forgot. Do my steps ascend, from my hills, into thy peaceful plains? Do I meet thee with a spear, on thy cloud, spirit of dismal Loda? Why then dost thou frown on me? Why shake thine airy spear?" ("Carric-thura.") Weithiau, dywed y penaethiaid yn eu hareithiau bethau cynilach ond nid llai barddonol, megys geiriau Duth-maruno, wrth son am "y cyntaf o'i deulu yn Albion: "

"His race came forth, in their years; they came forth to war, but they always fell The wound of my fathers is mine, king of echoing isles! (Cath-Loda.")

Brawddeg o'r dernyn uchod ("they came forth to war but they always fell ") yw'r unig frawddeg o Ossian yr wyf fi yn coflo gweled ei dyfynnu, a dyfynnir hithau y rhan amlaf yn anghywir ac heb wybod ei chysylltiadau.

Dro arall, ni rydd y bardd araith yng ngenau ei arwr o gwbl, ond gad i'w weithredoedd a'i ddistawrwydd ddangos ystad ei feddwl, megys yn y disgrifiad canlynol o Fingal :

"The king of Morven struck his breast; he assumed at once his spear. His darkened brow bends forward to the coast; he looks back to the lagging winds. His hair is disordered on his back. The silence of the king is terrible!" ("Carric-thura.")

Gwelwn y gwyr arfog yn gorwedd dan eu harfau yn y grug, a chlywn y gwynt yn suo yn eu gwallt; milwyr y nos yn cerdded draw i wylio, ac ysbrydion lladdedigion y gad yn nofio ar y cymylau ac yn gwibio yng ngoleu'r tân. Dyma ddisgrifiad o wersyll yn y nos :

"Cuthullin sits at Lego's lake, at the dark rolling of the waters. Night is around the hero. His thousands spread on the heath. A hundred oaks burn in the midst. The feast of shells is smoking wide. Carril strikes the harp beneath a tree. His grey locks glitter in the beam. The rustling blast of night is near, and lifts his aged hair." ("The Death of Cuthullin.") O gregyn y byddai'r hen Albaniaid yn yfed, a dyna, meddir, yw ystyr "the feast of shells."

Mae ysbrydion eu tadau o gwmpas y rhyfelwyr o hyd, a phan gwympo rhyfelwr yn y gad, atynt hwy yr â, i ddilyn eu hen gampau gynt :

His soul came forth to his fathers, to their stormy isle. There they pursued boars of mist along the skirts of winds!" ("Cath-Loda.")

Er eu bod yn ymhyfrydu mewn ymladd, nid yw eu gweithredoedd fel rheol yn waedlyd, ac nid oes ynddynt greulondeb ffyrnig fel y sydd, er engraifft, yn y Völsunga Saga, a'r hen lên ogleddig. Y peth mwyaf gwaedlyd yn y cerddi hyn i gyd yw hanes Ossian a'i wyth gyfaill yn ymladd â Chormac a'i wyth gyfaill yntau, pan aeth Ossian i Iwerddon i ofyn Everallin yn wraig iddo ef ei hun. Yn y frwydr honno, cofiodd Ogar, un o wyr Ossian, am ei ddagr, ei hoff arf, a "naw gwaith y boddodd hi yn ystlys Dula." Torrodd Ossian yntau ben Cormac ymaith, a dywed-" pum gwaith yr ysgydwais ef gerfydd y gwallt." Mae'r disgrifiad o ymladdfa rhwng dau frenin o dir Llychlyn-Culgorm a Suran-dronlo-yn nodedig iawn o ran ei debyced yn ei ffyrnigrwydd i ddarnau o'r hen lên ogleddig. Yr oedd Ossian yn y frwydr honno, ac ar ol adnabod Cathmor, ei wrthwynebydd, wedi taflu ei waew ar lawr, a'r ddau wedi troi ymaith “i ganol gelynion eraill,” ond nid felly y ddau frenin gogleddig, ebe'r bardd :

[ocr errors]

"Not so passed the striving Kings. They mixed in echoing fray, like the meeting of ghosts in the dark wing of winds. Through either breast rushed the spears; nor yet lay the foes on earth! A rock received their fall; half

reclined they lay in death. Each held the lock of his foe; each grimly seemed to roll his eyes. The stream of the rock leapt on their shields, and mixed below with blood."-(" Sul-Malla of Lumon.")

Dug diwedd y dyfyniad uchod i'm meddwl linellau y bardd Cymreig (yr wyf yn dyfynnu o'm cof) :

[ocr errors][merged small]

Ond er eu garwed yn y gad, mae arwyr Ossian yn cynorthwyo'r gwan ac yn rhoi nawdd i elynion syrthiedig. Cyngor un ohonynt i'w fab oedd, "Na chais y frwydr, ac na chilia rhagddi pan ddelo.” Mwyn ganddynt gerdd a chân yn y wledd, a thyner dristwch llawenydd a fu

"The music was like the memory of joys that are past, pleasant and mournful to the soul." ("The Death of Cuthullin.")

Yn eu gwleddau a'u llwyddiant, cofiant am henaint ac angau, gyda dwys chwithdod wrth feddwl am yr angof mud. Ei gŵynion ar ol ei ieuenctid yw rhai o ddarnau prydferthaf Ossian. Dywed yn un ohonynt :

Our youth is like the dream of the hunter on the hill of heath. He sleeps in the mild beams of the sun; he awakes amidst a storm; the red lightning flies around: trees shake their heads to the wind! He looks back with joy on the day of the sun, and the pleasant dreams of his rest. When shall Ossian's youth return?" ("The War of Inis-Thona.")

Mewn lle arall, dyry yng ngenau Alpin y geiriau, “Pa bryd y bydd fore yn y bedd, i beri i'r cysgadur ddeffro?" Ar ol trechu Swaran yn y frwydr, gwahaddodd Fingal ef i'r wledd, ac wedi i Swaran son am glod ei orchfygwr, ebe Fingal wrtho yntau :—

"To-day our fame is greatest. We shall pass away like a dream. No sound will remain in our field of war. Our tombs will be lost in the heath. The hunter shall not know the place of our rest. Our names may be heard in song. What avails it when our strength has ceased?" ("Fingal,” Book VI.)

Tlws iawn hefyd yw cerdd y bardd ar farwolaeth Dar-thula :

"When wilt thou rise in thy beauty, first of Erin's maids? Thy sleep is long in the tomb. The morning distant far. The sun shall not come to thy bed and say, 'Awake Dar-thula! Awake thou first of women! the wind of spring is abroad. The flowers shake their heads on the green hills. The winds wave their growing leaves.'' ("Dar-thula.")

Mynnai pob pennaeth hefyd fod ei glod fyw ar ei ol, yng ngherddi'r beirdd, ac yng ngherryg y bedd. Wrth alaru am ei fab, Ryno, dywed Fingal y byddai yntau wedi myned yn fuan; ni chlywid ei lais, ac ni welid ôl ei draed; ond "dywed y beirdd am enw Fingal; edrydd y meini am danaf fi." Yn y gerdd "ColnaDona," ceir hanes Ossian ac eraill yn myned i godi meini er cof am

« PreviousContinue »