Page images
PDF
EPUB

rywbeth am Esgob Heber ei fod yn barchus ac anwyl yn yr India, ond y fath ddarlun o hynny a dynnodd dychymyg Alun drwy gyfrwng Hindw yn eistedd ar lawr i alaru! Ac mor fyw, a llawn, a thebyg i gywir y gwnaeth dychymyg Eben Fardd hanes Brwydr Bosworth a Dinystr Jerusalem! Y mae gan bawb o honom ryw syniad am eangder y Greadigaeth, ond y mae dychymyg Hiraethog a'i athronydd Ellmynaidd wedi rhoi mantais i ni gael syniad ardderchocach. Y mae llawer o honom wedi bod yn meddwl am y golosg mawr y cawn Pedr yn son am dano; yr ydym yn teimlo fod Islwyn wedi gweled ei ddechreu-yn " y fflam las yn dringo pileri y byd."

Ac nis gellir ysgrifennu rhyddiaeth yn dda-yn enwedig rhydd iaeth ddisgrifiadol-heb i'r dychymyg fod ar waith. Fe all gwaith

fe

y llenor di-ddychymyg fod yn gelfydd a glân; ond unffurf a di-fywyd fydd, fel gwal neu dŵr neu dŷ—yr un fath bob amser, ond yn colli ei newydd-deb yn fuan. Am waith y llenor bywiog ei ddychymyg, erys hwnnw fel gardd neu faes ddechreu haf, yn llawn bywyd ac amrywiaeth dyddorol, a throi iddo dro ar ol tro yn bleser diddarfod. Pwy a flina yn darllen y clasuron goreu mewn rhyddiaeth ganwaith a mwy? Ac nid Daniel Owen yn unig sydd wedi rhoddi i Gymru lenyddiaeth fel hyn, wrth lwc. Os gâd llenorion Cymru sydd a Chymru fydd i'w dychymyg fod ar waith fe gyfoethogir mwy arni, drwy bob ffurf ar ryddiaeth.

Yr wyf wedi crybwyll fod yn rhaid wrth gymhorth y dychymyg i ddarllen hefyd, mewn trefn i ddarllen i'r pwrpas goreu, ac y mae hyn yn wir. Meddylier am lyfr hanes, er engraifft. Ni cheir ynddo ddim ond amlinelliad, po hwyaf a manylaf y byddo- dim ond crybwyllion am rai personau, a lleoedd, a digwyddiadau. Mewn trefn i gael golwg led glir a llawn ar y cyfnod a'r amgylchoedd, rhaid "darllen rhwng y llinellau"; rhaid aros i syllu, nes bydd yr olygfa yn agor o flaen y meddwl, fel yr egyr golygfa darlun wrth syllu trwy y" deulygadur."

A'r fath fyd cyfoethog a enillir, a'r fath hyfrydwch gwerthfawr, drwy dipyn o egni fel hyn! Ni raid i'r tlawd o arian fod yn dlawd o uchel fwynhad a meddiant mewn byd ag y mae ei lyfrau a'i ryfeddodau mor rad. Ac fe all llawer dyn a dynes oludog fod yn filwaith mwy goludog o wir fwyniant, drwy roi gwaith i'r gallu defnyddiol hwn. Mi a glywais Puleston Jones yn dweyd yn ddoniol am wr wedi hel cyfoeth materol mewn dinas yn Lloegr, yn dyfod yn ol i'w hen wlad, gyda'r bwriad o dreulio prydnawnddydd ei fywyd mewn tawel fwyniant,—yn adeiladu tŷ ardderchog, a'i wyneb ar olygfa heb ei harddach i'w chael,-yn ei ddodrefnu yn dra hardd,yn myned iddo i breswylio-ac yn treuiio'r dyddiau bron i gyd yn y

gegin, a honno'n gegin seler. Y mae pawb o honom wedi cael ein gosod am ychydig mewn byd bach sydd yn gartref hardd a chyfoethog iawn, faint bynnag ei ystormydd a'i helbulon. Gresyn mawr fod cynifer o honom yn dewis treulio y blynyddoedd yn y gegin ac yn y seler.

Ys dywed Emerson, Y mae yn perthyn i bob act o eiddo'r dychymyg hyfrydwch gwir. Ac ys dywed y meddyg llenorol Allenside, Mae'r dychymyg yn ein cymeryd am dro i gasglu pwysïau o welyau blodau nad ydynt byth yn gwywo, i swyno'r enaid, ac i'w adfywio â'u perarogl; mae yn galluogi dyn i fwynhau pethau nad all cyfoeth nac anrhydedd eu rhoddi; ac mae'r enaid, dan ddylanwad trefn a chynghanedd Natur, yn dyfod yn drefnus a melodaidd ei hun. Ac ebe rhywun arall wrth y dychymyg (nid wyf yn cofio pwy, er i mi geisio cyfieithu hyn o'i waith),

Tydi a fuost heulwen i fy myd,

Ddychymyg; ti a luniaist wenau hoff
I'w hongian ar wefusau llawer llun;
Ti wnaethost raian dwl yn emau claer ;
Benthyciaist im' dy edyn, i fwynhau
Dyddorol eangderau bydoedd fil;
A'th weledigaeth llonaist lawer nos;
Goreuraist gwmwl fy nhywyllaf ddydd;
Fy meddwl godaist ganwaith tua'r nef,
Tra mi yn crwydro'n flin y prysur fyd;
Fel eryr, trwy gymylau cludaist fi;
A dygaist fi ar nawf trwy'r distaw fôr.
Fy ieuanc ysbryd ddysgaist i ymagor,
Ac mewn dieithriol olygfeydd i fyw-
Mewn arall oesoedd gydag arall bobl.

ALAFON.

ROBERT OWEN.

DRO'N ol, yn NHRAETHODYDD Tachwedd, 1906,-bu gennyf air am un o feirdd mawr Cymru, sef Edward Morus o'r Perthi Llwydion. Y tro hwn, wele ychydig am un o'r beirdd bach. Ceir cywyddau o waith Edward Morus yn un o gyfrolau bychain “Cyfres y Fil" Mr. O. M. Edwards, ac oddiyno y cymerais rai-nid y cwbl, er eu bod oll yno-o'r darnau y soniais am danynt y pryd hynny. Dyma'n awr wneud yr un peth eto, a chodi'r darnau a ganlyn allan o'r gyfrol fach sy'n cynnwys barddoniaeth Robert Owen, y bardd ieuanc o Feirion.

Da yw ambell waith gael rhoi heibio linellau coeth a chynhwysfawr y prifeirdd, a throi o'r neilldu i wrando ar brofiad y rhai bychain. "Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain," meddir wrthym, ac feallai fod beirdd bychain ymysg y pethau bychain hynny na ddylem eu diystyru. Y mae swyn yn y bychan cystal ag yn y mawr, ac o dro i dro daw adegau ar fywyd pryd y bydd y distadl yn nes at ein calonnau na'r mawreddog. Hwyrach fod y darllennydd yn cofio am linellau prydferth Longfellow, y bardd o'r tu hwnt i'r Môr Werydd. Dyma hwy, heb eu cyfieithu :

[blocks in formation]

Ac felly ninnau, ddarllennydd; os bodlon wyt, ymdroi a wnawn am ychydig amser gydag awen bachgen ieuanc a ddioddefodd ac a ganodd wrth ei hunan ar lethrau'r bryniau-canu "fel y cân aderyn, i roddi ffrwd i'w deimlad," ys dywed Mr. Edwards yn ei hanes am dano, "He wrote not for Fame. He wrote not for Pence. He wrote Poetry because he had lived it; and sang as the bird sings on the bough." Fel yna y dywed George Henry Lewes yn ei "Life of Goethe." A dyna'r canu goreu, a'r unig wir ganu hefyd.

Ar y bryniau ger y Bermo, ac Afon Fawddach yn llefn islaw, y llithrodd rhan helaeth o fywyd Robert Owen heibio. Tawel a myfyrgar oedd. "Tra'r oedd holl fryd ei gymdeithion ar chwareuon a melusion, pa beth oedd yn ei ddenu ef i unigedd ochrau'r Llawllech i ymhyfrydu ym mhrydferthwch natur, ac i gyfuno'r mwynhad hwnnw gyda chariad, oedd yn ymagor yn ddistaw fel rhosyn, at eneth fach lygatddu oedd yn chwareu gyda'r lleill? Yr oedd pawb yn ei adnabod, ond yr oedd yn ddieithr yn eu mysg. Yr oedd yn unig; yn anesboniadwy hyd yn oed i'r rhai a'i carai. Cerddai lwybrau dieithr iddynt—“ min y môr a glan tragwyddoldeb o hyd." Daeth yn athro ysgol, ond adfeiliodd yr iechyd, ac aeth ei fywyd yn anial, heb bleser, heb swyn. "Nid wyf yn galaru am fy nhynged fy hun,” meddai; "y mae bywyd wedi colli ei swyn i mi. Y mae fel anialwch oer i mi, heb lwybr, heb gydymaith, heb flodeuyn; dim ond blynyddoedd blin o lafur a thrallod, yn ymestyn fel tonnau o dywod yn y diffeithwch, a marw anocheladwy y tu hwnt." Gwae'r rhai sy'n gorfod dysgu drwy brofiad chwerw beth yw colli popeth oherwydd colli'r iechyd, a hynny ym mlodau ieuenctid.

Bu raid iddo ffoi dros y dòn i Awstralia. Ond aeth y gelyn gydag ef, a hunodd yno yn 1885, yn saith ar hugain oed-marw cyn cyrraedd yr oedran y bydd dynion ereill yn dechreu byw.

Fel y sylwa Mr. Edwards, Awen ddieithr i feirdd Cymru yw Awen y Môr a'r Weilgi; ond ymhoffai Robert Owen yn "Swn y Môr." Yr oedd yn ateb i'r tant galarus oedd yn swnio yn ei fywyd ieuanc ef ei hun.

[blocks in formation]

Man fy ngenedigaeth ydoedd

Min y môr;

Y swn a'm suodd gyntaf ydoedd
Swn y môr;

Mae fy ysbryd wedi helaeth
Yfed chwerwder ei alaeth,
Cyfran heddyw o'm bodolaeth
Ydyw swn y môr.

Ond er yr holl drallod, yr oedd natur yr un o hyd,—

Nid adfydus gwyneb hudol
Anian, er fy ngofid mabol

Canys gwenai gwanwyn siriol
Ar bob tu,

ac äi yntau at y môr i chwilio am y dedwyddyd nad oedd fyth i'w gael,

Ond gwell na'i gwên oedd gennyf ruad

Min y môr;

Yno cefais gydymdeimlad

Swn y môr,—

Gwendon gref yn dilyn gwendon,

I guriadau prudd fy nghalon,

Gan dragwyddol ruddfan undon
Min y môr.

Megys Goronwy, "chwilio gem a chael gwmon" y bu ar hyd ei oes ferr. Pan el iechyd, fe a dedwyddyd yntau, i'r rhan fwyaf ohonom,

ac

Nid oes dŵr na dwys diredd
Na goror ym môr a'i medd.

Teimlodd beth oedd gwenwyn a chenfigen oddiwrth ereill,

Can's pwy

Heb wenwyn all weled glashogyn

Yn ymgais yn amgen na hwy?

Crwydrai" llawer min nos yn y gwanwyn" hyd y creigiau a'r ceunentydd

I geisio, yn arffed unigrwydd,
Orffwysdra i'm henaid blin,

Ac yng nghwmni Anian ddyhuddiant
Na chawn yn ffordd fy nghyd-ddyn,

ac oddi tanodd y morfa a'i dwmpathau o forhesg, a blethai'r plantos bach wrth chwareu gynt ar y traeth; a'r tu draw

Y tywcd yn fil o domennydd

Amryan wrth fympwy y gwynt,

« PreviousContinue »