Page images
PDF
EPUB

y Cyfundeb, yn ystyr uchaf y gair. Gwnaeth waith ag oedd yn creu cyfnod newydd yn hanes y Corff Methodistaidd. Pe na wnelsid y gwaith hwnnw, y tebygolrwydd yw y buasai y Cyfundeb yn graddol ddirywio, o leiaf ni welsid arni yr olwg lewyrchus sydd arni yn awr. Cyfeirio yr ydym at y Fugeiliaeth a'r Cronfeydd Athrofäol. Dyma waith mawr bywyd Mr. Morgan, ac y mae Mr. Ellis, gyda'r gofal a'r manylrwydd mwyaf, yn rhoi lle arbennig i'r ddau beth hyn-y prif le yn wir yn y Cofiant. "Credwn yn gryf," meddai, yn y Rhagymadrodd, "na wnaed mwy gan neb er dyddiau y Parchedig Thomas Charles er sicrhau llwyddiant parhaol Cyfundeb y Methodistiaid nag a wnaed ganddo ef," ac y mae yn dweyd hyn droion yng nghwrs y Cofiant. Caniataer i ni fwrw bras olwg ar ei lafur gyda'r Fugeiliaeth i ddechreu, oblegyd yr hyn a wnaeth gyda'r symudiad hwn yn ddiau oedd ei waith mwyaf. Dyma farn Dr. Lewis Edwards ar hyn :—“ Oni bae ein bod yn anfoddlawn i dynu y naill achos i lawr er mwyn dyrchafu y llall, braidd na fuasem yn dwedyd mai y gwaith mwyaf a gyflawnodd Mr. Morgan oedd yr hyn a wnaeth o blaid y Fugeiliaeth. Buasai yr Athrofa yn myned ymlaen rywfodd heb y gronfa, ond y mae yn rhaid i ni addef nas gallwn weled pa fodd y dichon i'r Methodistiaid bara yn hir heb y fugeiliaeth."

Y mae yn wir er hynny fod achos y fugeiliaeth wedi ei gymeryd i fyny, nid gan Mr. Morgan yn unig, ond gan rai o brif arweinwyr y Corff, ond am Gasgliad y Cronfeydd fe'u gwnaed hwynt ganddo ef ei hunan, o'r bobl nid oedd neb gydag ef, er bod anadl ein prif ddynion o'i blaid. A pheth mor hawdd ydyw anadlu, onite? Ond er llafur ereill gyda'r Fugeiliaeth, yr oedd pwys y dydd a'r gwres gyda'r achos hwnnw yn cael ei ddwyn gan Mr. Morgan. Trown am ychydig i edrych ar ei lafur gyda'r achos pwysig hwn, a hynny yng ngoleuni y Cofiant. Mae yn ddyddorol ei ddarllen er mwyn gweled sefyllfa pethau yn y Cyfundeb pan ddechreuodd Mr Morgan gymeryd y cwestiwn hwn i fyny. Nid oes ond ychydig o Fethodistiaid yr oes hon, er eu bod yn medi o ffrwyth llafur Mr. Morgan, yn gwybod am y brwydrau a ymladdwyd y pryd hwnnw. Ymladdwyd hwynt cyn geni llawer ohonynt, ac y mae ereill, er eu bod yn ddigon hen fel y gallasent gofio, nad oeddent ar y pryd yn cymeryd dyddordeb yn y mater, neu oherwydd amgylchiadau ereill yn cymeryd y drafferth i ddilyn y dadleuon a'r ymdrafodaethau Cymdeithasfaol fel ag i wneud eu hunain yn gyfarwydd â'r materion pwysig oedd yn tynu sylw ynddynt. Oherwydd hyn y mae darllen yr hanes yn awr, fel y mae yn cael ei adrodd yn y Cofiant hwn, yn ddyddorol iawn ac yn dra addysgiadol. Credaf y dylai pregethwyr yr oes hon yn arbennig brynu—ie, prynu, meddwn, ac nid benthyca-y llyfr hwn. Wel, beth oedd sefyllfa pethau pan ddechreuodd Mr Morgan ar eî lafur v blaid y fugeiliaeth? Mewn ychydig o eiriau dyma

ydoedd. Fel rheol nid oedd pregethwyr na gweinidogion urddedig y Corff yn meddu un math o reolaeth nac arolygiaeth ar yr eglwysi. Yr oeddent yn fwy o efengylwyr a phregethwyr teithiol na dim arall. Mae'n wir eu bod yn arfer eu dylanwad, ac yn estyn eu cymhorth hyd y gallent, yn yr eglwysi lle y trigent, ond byddai y pregethwyr mwyaf cymeradwy beunydd oddicartref, ac yr oedd eu gorchwylion bydol hefyd yn galw am eu sylw. Yr unig rai, gan hynny, y gellid eu galw yn fugeiliaid proffesedig oedd y blaenoriaid. Dewisid hwy gan eglwysi neillduol i hynny. Dyma eiriau Mr. Ellis ar hyn :

"Fel 'golygwyr' yr adnabyddid hwynt. Yn y Cyfarfod Misol y cyflwynwyd iddo achos Mr. Morgan fel ymgeisydd am y weinidogaeth derbyniwyd pedwar o flaenoriaid yn

[ocr errors]

aelodau ohono. A dyma y cofnodiad: Ymofynwyd am arwyddion o waith gras ar eu heneidiau, am eu hargyhoeddiad o bechod, a'u cariad at Grist. Cymeradwywyd hwynt gan y Cyfarfod Misol i'r gorchwyl pwysig o fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd Efe â'i briod waed."

Fe gofla ein darllenwyr fod y gair "golygwyr" yr un gair yn gymhwys ag a roddodd yr Apostol Paul ar henuriaid Ephesus, pan yn eu cyfarch, ac y dywed :-" ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr," neu fel y mae y Cyfieithiad Diwygiedig yn darllen, yn esgobion. Y blaenoriaid, gan hynny, oedd henuriaid neu esgobion yr eglwysi. Yr oedd y stat yma ar bethau, i bob dyn ystyriol, yn un chwithig iawn-os y rhai cymhwysaf a ddylasai fod yn fugeiliaid—ac yn un nas gellid disgwyl iddo barhau. Yr oedd yr eglwysi yn galw am ddynion o dalent a dysg, ac amser ganddynt i'r gwaith bugeiliol. Nid ydym wrth ddweyd hyn, cofier, yn taflu un math o ddiraddiad ar y blaenoriaid. "Urdd ardderchog," medd Mr. Ellis, "oedd blaenoriaid y Methodistiaid yn y cyfnod y cyfeiriwn ato; anhawdd fyddai ysgrifennu geiriau rhy gryfion am eu gwasanaeth hunanaberthol." Oedd, yr oedd llawer ohonynt ym meddu cymhwysder bugeiliol o'r radd uchaf, llawn cyfuwch a'r rhai a'u dilynodd. Ac heblaw hynny, gallasent ddadleu, pe mynasent, eu bod o ran eu galwad i'r swydd yn wir henuriaid neu esgobion yn ol ystyr y Testament Newydd o'r gair. "Ond gyda chyfnewidiad yr amseroedd," fel y dywed Mr. Ellis, "gwelwyd yn glir nas gellid gobeithio am ei barhad." Yr oedd y corff ohonynt yn ddiffygiol mewn dysg a chymhwysder i'r gwaith y gelwid hwynt iddo. Disgwyliai yr eglwysi am ddynion, nid yn unig i'w harolygu, ond i'w dysgu a'u hyfforddi. Yng Nghymdeithasfa Llanrwst, traethodd Mr. Morgan ei syniadau ar hyn mewn modd eglur ac yn eofn, a than deimlad dwys o'i gyfrifoldeb. Ymddangosodd yr erthygl yn Y TRAETHODYDD am 1885, lle dangosir yn glir fod yn rhaid cael gwyr cymhwys i wir fugeiliq yr eglwysi. Seiliai ei ddadl ar ddysgeidiaeth y Testament Newydd,

ac ar sefyllfa yr eglwysi ar y pryd. Ond er yr angenrheidrwydd digamsyniol hwn, nid oedd dim disgwyl y gellid dwyn y fath gyfnewidiad mawr oddiamgylch heb lawer iawn o wrthwynebiad. Yr oedd yn ddadymchweliad llwyr ar safle y blaenoriaid yn y Cyfundeb, ac nid oedd dim disgwyl iddynt lai nag anesmwytho. Ac nid oddiwrthynt hwy yn unig y codid gwrthwynebiad: yr oedd llawer o'r pregethwyr hefyd yn ofni y fath chwyldroad trwyadl; nid yn unig oddiar argyhoeddiad cydwybod, ond hefyd oddiar resymau llai canmoladwy, y rhai y mae yn hawdd eu deall. Heblaw hynny, yr oedd y fath chwildroad yn tybied cyfnewidiadau eraill mwy anhawdd eu dwyn oddiamgylch. Cynnwysai fod yn rhaid i'r pregethwyr a ddewisid i fod yn fugeiliaid roddi eu gorchwylion bydol i fyny, cysegru eu holl amser i'r gwaith, a chael cynnaliaeth deilwng gan yr eglwysi. A chyn y gellid gwneud hynny yr oedd yn rhaid eu dysgu i fod yn llawer iawn mwy haelionus nag yr arferent fod. Ond er cymaint y gwaith, ymroddodd Mr. Morgan i'w gyflawni er gwaethaf pob rhwystrau. Nis gellir darllen yr hanes fel y croniclir ef yn y coflant hwn heb deimlo edmygedd dwfn o un a gysegrodd ei fywyd mor llwyr iddo. Mae yn iechyd i ysbryd dyn i ddarllen diwedd-glo anerchiad hyawdl Mr. Morgan. Mae yn werth ei ddyfynnu yn gyflawn. Gwelir fod "dyn bach y Dyffryn" yn wron dewr, ac nad oedd yn ofni mwg na thân brwydr boeth pan fyddai egwyddor yn galw am eu gwynebu. Yr oedd gwr a allai siarad fel hyn yn rhwym o enill buddugoliaeth. Dyma'r peroration ardderchog :—

Nid wyf yn disgwyl gweled hyn yn cymeryd lle heb achosi ychydig gynhwrf; ond y mae pethau gwaeth na chynhwrf. Y mae distawrwydd a heddwch angeu yn anrhaethadwy waeth na chynhwrf gwylltaf bywyd. Nid ydyw ein cyfundeb wedi dyfod trwy unrhyw gyfnewidiad mawr heb gynhwrf. Pe buasid yn aberthu popeth i heddwch, ni buasai gennym yr un Ysgol Sabbothol heddyw; ond yr oedd Mr. Charles yn gweled fod cynhwrf yn well na heddwch felly; ac onid ydym oll yn diolch i'r Arglwydd am iddo ddewis y cynhwrf yn hytrach na heddwch? Pe buasid yn aberthu popeth i heddwch, ni buasai gan y Methodistiaid yr un gweinidog heddyw; ond fe farnodd Mr. Elias, Mr. Ebenezer Morris, ac eraill, fod cynhwrf yn well na heddwch felly; am hynny yr ydym trwy ras Duw yn gyfundeh Iliosog heddyw; ond pe buasid yn aberthu popeth i heddweh buasem cyn hyn wedi darfod oddiar wyneb y ddaear. Pe buasid yn derbyn heddwch am unrhyw bris, ni buasai gennym nac athrofa na chronfa i'w chynnal hi. Os dilynir heddwch, ni bydd gan ein heglwysi ddim bugeiliaid; ond a ydyw yn iawn aberthu crefydd i gadw heddwch o'r fath ? Na, os na allwn ni gael yr hyn sydd yn hanfodol i'n llwyddiant heb yr ystorm, gadewch i ni gael yr ystorm. Nid wyf yn caru yr ystorm er ei mwyn ei hun, ond nid ydwyf yn ei hofni hi. Yr ydwyf yn credu yn yr hen lestr Fethodistaidd am fy mod wedi ei gweled yn dal aml

ystorm, ac erddynt oll heddyw eto a'i chyfeiriad yn deg at yr hafan ddymunol. A phe yr elai hi yn ychydig o storm, nac ofnwn, y mae Perchen y llestr yn un a fedr rodio brigau y tònau; yn Un a fedr ddwedyd, 'gostega, distawa,' wrth bob gwynt a môr; ac nid hynny yn unig, ond yn Un a all hefyd beri, mewn canlyniad i'r oll, i'r llestr fod wrth y tir yr oeddym yn ceisio myned iddo."

Do, fe gododd yr ystorm, ac i ni ddisgyn i lawr o'r ehediadau uchel y mae Mr. Morgan wedi ein codi i adrodd ffeithiau syml, gallwn ddweyd mai un elfen ynddi oedd fod yn rhaid dadlenu yngwydd y lliaws mor druenus o fychan oedd y "degwm cil dwrn " a estynid yn llechwraidd i'r gweinidogion gan y blaenoriaid am eu llafur. Wrth wneud hynny gosodai Mr. Morgan ei hun yn agored i'r cyhuddiad o fod yn ariangar, ac yr oedd hynny yn boenus iawn i un o'i natur dyner a llednais ef. Ond ni lwfrhaodd, meiddiodd ddadleu yn wrol am well tâl,—ie, tâl, ac nid yr hen air, "cydnabyddiaeth" i'r pregethwr. Pan feddyliom pa faint oedd y tâl hwnnw, nis gwyddom at beth i ryfeddu fwyaf; pa un ai at hunan-ymwadiad cynifer o ddynion da yn ymroddi i waith y weinidogaeth am dâl mor arswydol o druenus, ynte at eofndra diarswyd, neu hwyrach anystyriaeth beius y rhai a estynent y gydnabyddiaeth iddynt.

"Pum' swllt y Sabbath," medd Mr. Ellis, "oedd y swm a gafodd Mr. Morgan gan yr eglwysi cryfaf cyn i fugeiliaeth gychwyn a llai na hynny yn aml. Bu yn myned i Ddolgellau am rai blynyddoedd am bum' swllt y Sabbath." Troer i Gofiant y diweddar Dr. Hughes gan y Parch John Williams, a cheir gweled rhestr o'r symiau a delid i bedwar o brif bregethwyr Mon am eu gwasanaeth Sabbothol yn y dyddiau hynny. Yr oedd yn wel, gwell genym beidio ysgrifennu y gair. Mor anhawdd gan hynny oedd meddwl sefydlu bugeiliaid a'u galluogi i fyw heb ymrwystro gyda negeseuau y bywyd hwn. Ond fe gafodd Mr. Morgan fyw i weled y fugeiliaeth yn llwyddo, ac y mae yr hyn oedd yn ddieithr-beth yn y Cyfundeb yn ei ddyddiau ef, wedi dod yn beth cyffredin yn ein dyddiau ni.

Mewn anerchiad a draddododd Mr. Morgan yng Nghymdeithasfa Dolgellau, yn 1870-y flwyddyn cyn ei farwolaeth y mae yn cyfeirio at lwyddiant y fugeiliaeth mewn geiriau mor hyawdl fel nas gallwn beidio eu difynu :

"Fe siaradwyd ac fe ddadleuwyd rhyw gymaint yn ei chylch hi (y fugeiliaeth) yma, ond fe ddechreuwyd ei hymarfer hi yn hir cyn penderfynnu y pynciau mewn dadl, a hynny a ddygodd ei barn hi i fuddugoliaeth. Bu cryn ddadleu ynghylch gallu ager i yru llongau tua dechreu y ganrif. Ysgrifenwyd llawer i brofi fod y peth yn amhosibl, ond tra yr oedd ysgrifennydd medrus yn paratoi llyfr yn erbyn hyn, aeth engineer i geisio gwneud y peiriant; a phan oedd y llyfr yn cael ei gyhoeddi i

brofi amhosibilrwydd y peth, yr oedd agerlong fechan yn paddlo ar y Clyde, er gwaethaf logic y llyfr. Ysgrifened y neb a fyno yn erbyn y Fugeiliaeth, y mae hi yn paddlo yn ei blaen yn Meirionydd, tra y mae y bobl ddysgedig yn ysgrifennu i brofi nad oes modd iddi weithio. Os mynech ei deall hi rhoddwch brawf arni, a phrawf, cofiwch, ar y gwir beth, ac nid ar rywbeth a gamenwir yn Fugeiliaeth.'

[ocr errors]

le, y "gwir beth." Yr oedd Mr. Morgan nid yn unig yn dadleu dros fugeiliaeth, ond yn ei dangos mewn gweithrediad yn ei berson ei hun. Dedwydd yw yr eglwys y gellir dweyd am dani ei bod ym meddu ar fugail yn ateb i'r desgrifiad hwn a roddir am dano yn y Cofiant:

"Llafuriai yn ddiarbed. Cyfodai yn foreu yn y gauaf fel yn yr haf, mor foreu a phedwar o'r gloch, ac felly byddai yn gweithio yn galed am ddwy neu dair awr cyn y byddai pobl y dref yn dechreu ymysgwyd. Astudiai ei bregethau a dim arall hyd hanner dydd, ac yna am y gweddill o'r dydd ymwelai â'r cleifion, ac adferai y grwydredig gan ddilyn yn yr hwyr y cyfarfod wythnosol gyda'r ffyddlondeb mwyaf."

Yr ydym wedi cyfeirio at y dadleuon a godid yn erbyn y Fugeiliaeth. Yr oedd rhai ohonynt yn alluog iawn, rhaid addef, yn arbennig eiddɔ “Thesbiad" yn yr Herald Cymraeg. Daeth Dr. Hughes allan i'w hateb yn y Goleuad. Nid yw Mr. Ellis yn cyffwrdd ond yn ysgafn iawn â'r dadleuon hyn, ac y mae hyn yn ddiau yn ddoeth. "Gellid," meddai, "ysgrifennu pennod ddyddorol ar ddadleuon y Fugeiliaeth, ond nid ydym yn gweled y dylem roddi lle iddo yn y gyfrol hon." Ar ryw gyfrif buasai pennod ar y dadleuon hyn, fel y cawsom gan Dr. Owen Thomas ar y Dadleuon Diwinyddol yng Nghofiant John Jones, Talsarn, yn ddyddorol dros ben. Tybed nad yw yr "ystorm" a godwyd wedi tawelu digon i allu gwneud hynny heb beryglu claddu enwogrwydd neb o dan y tonau? Ond nid ydym yn bur siwr mai Mr. Ellis fuasai y cymhwysaf i wneud hynny, er o ran gwybodaeth am yr holl fanylion, dichon nad oes modd cael neb a fuasai gymhwysach. Am y modd y dadleuai Mr. Morgan y cwestiwn fel hyn yr ysgrifena Mr. Ellis :

"Dadleuai dros Fugeiliaeth ar dir ysgrythyrol. Ni chredai fod eglwys heb weinidog esgob' neu henuriad—yn eglwys gyflawn yn ol y Testament Newydd. Coleddai syniadau cryf am y weinidogaeth fel swydd yn yr eglwys, swydd hanfodol i'w bodolaeth. Felly y gwelsom y gwnai y Parchedig John Hughes, Pont Robert, yn yr araeth a draddodwyd ganddo yn y Bala, Ac felly y gwnai llawer eraill. Ond y mae yn rhydd i ni ddwedyd mai nid ar y tir hwn y llwyddodd Bugeiliaeth Eglwysig mor fawr ymysg y Methodistiaid. Yr angen ymarferol am y trefniant yn hytrach nag unrhyw syniadau am le y swydd yn y Testament Newydd sydd wedi creu llwyddiant y symudiad. Ac ar y tir hwn i ryw fesur, ac ar rai adegau, yr apeliai Mr. Morgan

« PreviousContinue »