Page images
PDF
EPUB

ei berthynas Ef â natur. Yna traetha am fewn-fodaeth ac uwchfodaeth Duw yn natur. Cydnebydd hyn fel ffeithiau: Fod hyn yn rhan o ddysgeidiaeth yr Hen Destament a'r Newydd. Ac yn unol â safle uchel bresennol gwybodaeth, ein bod yn rhwym o gydnabod dysgeidiaeth y ddau Destament. Cydnebydd hefyd am y gwyrthiau fel ffeithiau hanesyddol, ac yn brawf o lywodraethiad y materol gan yr ysbrydol. Er fod Mr. Jones yn dweyd llawer o bethau cymeradwy iawn yn yr adran hon, eto nis gallwn peidio drwgdybio ei blas, am yr ymddengys i mi fel yn ysgoi rhag cydnabod dysgeidiaeth y Beibl fel yn ogyfuwch â dysgeidiaeth gwyddoniaeth. Mae yr awelon braidd yn afiach yma yn sicr.

Yn yr adran nesaf a'r olaf o'r bennod hon sylwa ar y gweithredyddion sydd yn dwyn y dadblygiad yn mlaen, a dybena drwy ddweyd mewn modd iachus nas gellir byth esbonio y greadigaeth wrth anwybyddu bwriad a chynllun o eiddo Duw personol yn yr oll i gyd. Da iawn. Dyma eiriau gwirionedd a sobrwydd. Ond y mae Mr. Jones yn ymddangos i mi, er hynny, fel pe byddai yn ymdrechu bod yn ffrynd mawr â'r Dadblygwr a led-gondemnia; a phan y teimla ei hun fel yn myn'd yn rhy bell oddiwrth ei gyfeillion duwinyddol, ei fod yn brysio yn ol atynt, ag ambell i ymadrodd teg, i wneud iawn am ei afradlondeb. Pennod bwysig iawn yw hon, ac y mae yr awdwr yn ymddangos fel ar ei oreu ynddi, ond rhaid i mi ddweyd, er y teimlaf fy mod yn cytuno âg hanfod ei ddysgeidiaeth yma, eto yn teimlo nad yw yr awdwr yn trin ei fater yn ddigon gofalus, dwfn, athronyddol, a chyflawn; i gael ei gydnabod yn arweinydd medrus na diogel.

PENNOD III.

Yn y bennod hon, mae'r awdwr yn dod at gnewyllyn o ddyddor. deb ychwanegol, sef dadblygiad yn ei berthynas â dyn yn arbennig. Yma rhydd le i'r cwestiwn, A yw dyn yn fôd o rywogaeth greëdig ar ei ben ei hun, ynte dadblygiad o ryw fywolion eraill a fodolent yn flaenorol? Dyna gwestiwn a grea ddyddordeb i glywed yr atebiad. Ond wrth ddilyn yr awdwr o bennod i bennod, teimlwn ei fod yn dweyd pethau yn lled bendant mewn un man, ac yn ceisio eu cymesuro mewn man arall, fel y mae yn lled anhawdd bod yn sicr am ei safle ar lawer pwnc. Ond yn nglyn â'r cwestiwn hwn, cymer Mr. Jones safle bendant, a dywed mai dadblygiad yw dyn o rywogaeth creaduriaid is, ond fod yn debygol fod y creadur agosaf ato wedi diflanu, y boy hwnnw, nid yr epa, yw y missing link y sonir cymaint am dani.

Ond ym mhellach, ymddengys fod yr awdwr ar yr un safle a'r gwyddonwyr hynny a ddysgant fod dyn wedi ymddadblygu o'r anifail o ran ei feddwl a'i enaid yn gystal ag o ran ei gorff; er y ceisia

gymesuro ychydig ar hyn drwy ddweyd: "Nid yn unig o ran ei gorff, ond i raddau helaeth o ran ei feddwl hefyd." Ac er mwyn dangos ei fod ef ei hun yn foddlon i'r safie yna, dywed y byddai yn well i bawb eraill hefyd i fod yn ddigon rhydd i gydnabod y berthynas hon â'r anifail yn groew. Boddlona ar yr haeriad nad yw dyn ddim ond bôd sydd wedi gwirioneddol ddadblygu, i'r hyn y mae posibilrwydd i'r anifail wneud yr un peth, ac nid yw y gwahaniaeth presennol sydd rhwng dyn ac anifail yn ddim heblaw gwahaniaeth yng ngraddau dadblygiad, ac nid yn rhywogaeth eu naturiaeth. Ac eto, dywed nad yw y ddamcaniaeth yn y wedd hon yn cael ei chymeryd yn hollol gan rai dadblygwyr cymedrol.

Ac wrth gadarnhau y safle hon ym mhellach, dywed mai nid un peth, nac ychydig o bethau ychwaith, a dystiolaethant am y berthynas agos hon rhwng dyn ac anifail; ond fod cyd-dystiolaeth popeth drwy holl natur yn sicrhau hyn, ac haera mai yr achos o wrthwynebiad llawer i'r ddysg hon yw, ei bod yn clwyfo eu balchder yn nglyn â'u tarddiad. Wel, wel. Nonsense, nonsense, filwaith drosodd, dyma ei gwneud hi. Ai tybed nad oes neb ond dadblygwyr yn caru y gwirionedd er ei fwyn ei hun? Ai tybed nad yw y rhai y ceisir eu sarhau drwy eu galw yn dduwinyddion ym meddu digon o riddyn gonestrwydd i gyfrif pob cyfundrefn, os bydd raid, yn dom ac yn golled, fel yr enillent y gwirionedd. Clwyfo balchder yn wir! Ffei, ffei!

Wedi hyn, wrth egluro mai ei alluoedd meddyliol a'i gynneddfau ysbrydol, sydd, wedi y cwbl, yn cyfrif am uwchafiaeth presennol dyn ar yr anifail, dywed iddo dderbyn yr ychwanegiad hwn, mewn rhyw adeg bell yn ol yng nghwrs dadblygiad, ac mai y pryd y teimlodd ymwybyddiaeth o'r pethau hyn y daeth yn ddyn. Dyma y pryd y gwawriodd dydd arno, y daeth i'w etifeddiaeth, ac y dechreuodd lywodraethu ar ei hen bartneriaid gynt. Goroesiad y cyfaddasaf!

Yn yr adran nesaf, chwareuir yn ol ac ym mlaen o gwmpas yr un pethau, a gofyna yr awdwr. ar ol i ni dybio ei fod wedi penderfynu ei safle ar y cwestiwn, A ydyw yn hollol glir mai cynnyrch dadblygiad yn y cwrs o esgyniad ar i fyny, yw dyn yn ei gynneddfau uchaf? Mae yn syn gennym gael y cwestiwn hwn eto. A yw yr awdwr yn anesmwyth o'i safle? Neu ynte a yw yn rhagdybio y bydd gan eraill sail i fod yn anfoddlon arni? Sut bynnag, try yn ei ol yma i ddweyd golygiad Darwin ar y pwnc, a dywed fod Darwin yn dal mai y by product-cynnyrch dadblygiad yn y cwrs ar i fyny yw dyn yn ei rannau ysbrydol yn gystal ag yn ei ranau corfforol. Gwelwn hefyd mai nid dod a golygiad Darwin ym mlaen i'w ddadansoddi a'i feirniadu y mae, ond yn hytrach i gadarnhau ei safle ei hun ar y pwnc. Wedi hyn, dwg ym mlaen yr hyn a ddywed Proff. Romanes am y

gwahaniaeth sydd rhwng dyn ac anifail yn eu cynneddfau meddyl. iol, sef fod dyn ym meddu gallu, nid yn unig i dderbyn gwirionedd fel gwirionedd, ond hefyd i'w amgyffred: ond nad yw yr anifail ond ym meddu y gallu i dderbyn. Recept yn unig sydd gan yr anifall, ond y mae concept hefyd gan ddyn. Ond fe ä yr awdwr ym mlaen yma i ddadansoddi ac i feirniadu safle Proff. Romanes, a dywed nad oes dadl ar y pwnc pa un a yw yr anifail ym meddu y gallu i dderbyn, y receptual power, ond ymholai ai nid yw holl hanfodion y gallu i amgyffred-y conceptional power-sydd mewn dyn i'w gael mewn hedyn yn barod yn y receptual power sydd gan yr anifail. Gwelir yn eglur fod yr awdwr yn fwy ffafriol i olygiad Darwin na golygiad Romanes, ac felly ei fod yntau yn dal mai by product dadblygiad yw dyn yn ei rannau ysbrydol yn gystal ag yn ei rannau corfforol. Dyma ddadblygiad out and out.

Ond i fyn'd yn mlaen, gan adael amryw bethau am neillduolion ymwybyddiaeth dyn, y synwyr moesol a chrefydd, materion ag sydd yn llawn o ddefnydd sylwadau, ond ni chaniata gofod i ni fanylu ar yr oll.

Eto, yn yr adran olaf o'r bennod olaf, sylwa yr awdwr fod dadblygiad yn aml yn cael ei chyhuddo o fod yn gwneud i ffwrdd â Chreawdwr i'r bydysawd, ond nad yw y cyhuddiad yn deg, a therfyna drwy ganiatau, caniatau cofiwch, nad yw son am Greawdwr yn beth superfluous, h.y., yn ormodiaeth! Ie, siwr, son am Greawdwr ddim yn superfluous! Yn hyn, fe amddiffyna yr awdwr y gwyddonydd, nad yw yn rebel diddeddf, yn myn'd yn hollol dros derfynnau parchus ei ddamcaniaeth wrth ganiatau yma le i Greawdwr! Ha wyr, frodyr, beth a ddywedir wrth y pethau hyn? Siaredir am ddetholiad naturiol, goroesiad y cyfaddasaf, &c., fel pethau hanfodol, ac fel pethau nad oes eisiau cwestiyno eu hawl i aros i esbonio y bydysawd; ond am Greawdwr, dywedir nad yw yn superfluous son am dano. Wel, wel, a fyddai yn ddoeth diolch iddynt am y small mercies hyn i'r Brenhin Mawr ? Ond meiddiwn ddweyd yn groyw, os nad ellir cyhuddo y dosbarth hwn o wyddonwyr am wneud i ffwrdd a Chreawdwr; y rhaid eu cyhuddo o roddi can lleied byth o le ag a allant iddo, a hynny yn ei dŷ ei Hun. Ymddengys fod y dadblygwyr hyn am gadw y Brenhin Mawr yn y greadigaeth, yr un fath ag y mae Cydffurfwyr yn cadw Anghydffurfwyr yn Mhrydain—o dan ddeddf goddefiad. Y fath le amlwg, eang, rhydd, a pharchus a roddant i energy, force, natural selection, survival of the fittest, &c.—dyma y duwiau a'u dyga o Aifft pob tywyllwch, caethiwed, ac anwybodaeth i ryddid a goleuni Canaan eu damcaniaeth fawr. Gwir y soniant am "The immanence of God," a "Transcendence of God," ond peth achlysurol iawn yw hynny.

Pan yn crybwyll am energy a force yn y bydysawd, paham na ddy wedant mai agweddau ar ewyllys a gweithrediadau Duw personol ydynt ? Pe y gwnelent hyn gallem siglo llaw yn amlach â hwynt, a theimlo mai un bobl ydym; ond yn awr "ar air a chydwybod," ys dywed yr Eisteddfodwyr, yr ydym yn llwyr ymwrthod â'r safle a gymer yr awdwr dysgedig ac hynaws, y Parch. E. Griffith-Jones, B.A., pan y dywed mai dadblygiad ydyw dyn gorff a meddwl o'r anifeiliaid direswm fodolent yn y byd yma o'i flaen ef. Rhaid i ni ffarwelio âg ef ar gopa y graig yna. A da gennyf, yn nglyn â hyn, allu dyfynnu ymadrodd o eiddo yr enwog Virchow, awdwr a saif, medd y diweddar Ddr. Charles Edwards, yn rhenc flaenaf gwyddonwyr:-"Rhaid i mi," medd Virchow, "yn ddiamwys, gydnabod fod llinell-derfyn eglur yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr epa. ... Pa mor debygol bynnag o fod yn ffaith, mae heb ei brofi eto fod dyn wedi tarddu o'r epa, nac o'r un anifail arall." Dyma eiriau pendant gan awdurdod uchel, ond hollol groes i Mr. Griffith Jones.

Ond yn nglyn â'r sylwadau hyn, priodol gofyn beth yw ein safle ni ar y pwnc? Peth cydmarol hawdd yw beirniadau cyfundrefnau gwyr ereill. Ond a oes gennym ni gyfundrefn i'w dysgu? Teimlaf yn ddiolchgar o galon i bawb sydd wedi ysgrifennu yn ddifrifol ar y pwnc hwn, heb eithrio Darwin a Spencer, ac yn arbennig ddiolchgar i Mr. Griffith Jones am ei lyfr galluog hwn. Ond beth yw ein barn ni, os nad ydym yn cydolygu â'r awdwr parchus hwn?

Caniateir i mi ddweyd fy safle ar y pwnc yn fyr ac hollol ddiymhongar, ac fel un parod i dderbyn goleuni ychwanegol, deued o'r lle delo. Dyma hi :

1. Fod dyn yn greadur o rywogaeth wreiddiol ac ar ei ben ei hunan. Nid oes dadblygiad o'r naill rywogaeth i'r llall. Pan gychwynir i'r cyfeiriad yna y mae epilio yn diflanu.

2. Ni thybiaf fod dyn wedi ei greu ar unwaith yn ei gyflawn faintioli ar y dechreu. Nid wyf yn synio y ceid dwylaw anweledig na gweledig Duw yn casglu pridd coch y ddaear at eu gilydd, ac yn gwneud colofn syth ohono, fel y gwelsoch chwi blant yn gwneud colofn o ddyn eira, traed, corff, pen a llygaid; ac wedi ei gael i rhyw gyflwr fel hyn, yn anadlu yn ei ffroenau, a'r dyn yn mynd yn enaid byw. Dichon fod syniadau plentyndod rhai ohonom wedi troi o gwmpas rhyw ddarwelion fel yna, ond pell oddiwrth hynyna yw ein syniadau heddyw. Cydnabyddwn fod dyn wedi ei greu ar yr un egwyddor gyffredinol ag y crewyd popeth arall, ac wedi ei gyflwyno i ofal yr hyn a eilw gwyddonwyr yn ddeddf dadblygiad, ond yr hyn a alwn ni yn ofal Duw personol mewn Rhagluniaeth. Ond pwysleisiwn ar yr ymadrodd, ei fod yn greadigaeth, ac yn greadigaeth arbennig, yn

rhywogaeth ar ei ben ei hun o'r cychwyn, ac fod hyn yn cael ei ddysgu yn y geiriau, "Gwnawn ddyn ar ein llun a'n delw ein Hun." Er mai gwaith ar unwaith a therfynol yw creu, ac fod dadblygiad yn waith graddol iawn, nid wyf am ddweyd dim am yr amser y bu dyn yn dod i'w berffeithrwydd, pa un ai mil o flynyddoedd ai miliwn, pa un ai ychydig o amser un boreu, ynte amseroedd lawer. Nid yw hyna yn fater hanfodol, ond cydnabyddaf y gall fod cymaint o wahaniaeth rhwng dyn pan grewyd ef a dyn pan y daeth i gyfnod hanes, ag sydd rhwng anelwig ddefnydd dyn yn y bru a dyn wedi tyfu i gyflawn faintioli corfforol. Nid ydym yn erbyn son am ddadblygiad dyn o gyflwr is, mwy nag ydym yn erbyn son am ddadblygiad y dderwen o'r fesen; a phe dywedai y dadblygwyr wrthym mai dadblygiad dyn o ffurf is i ffurf uwch a olygant, nid ynganem air yn eu herbyn, ond pan y dywedant wrthym mai dadblygiad yw dyn o rywogaeth arall o greaduriaid, teimlwn fod ein holl natur, yn nghyda holl donau cefnfor mawr y gwirionedd mewn natur, yn gystal ag mewn Datguddiad, yn curo yn eu herbyn.

Towyn (Llanrwst gynt).

D. S. THOMAS.

« PreviousContinue »