Page images
PDF
EPUB

wedi gwneud gwaith da, ac wedi ymdrechu yn deg i wneud i enwau ein harwyr fyw drachefn. Ond i raddau y mae yntau wedi llwyddo. Nid yw wedi creu Llywelyn i ni; nid oes ganddo, fel Scott, oriel o arwyr ac y mae eu geiriau a'u gweithredoedd yn byw yn ein cof hyd byth. Mae awdwr arall, Ernest Rhys, wedi darlunio cyfnod o fywyd Cymreig pur anadnabyddus yn ei stori, "The Man at Odds," ac wedi arfer ei ddefnyddiau yn dda, ond nid yw yntau yn rhoddi, nac yn amcanu rhoddi, golwg eang ar y genedl.

Tri Sais yn unig sy'n ymddangos i mi eu bod wedi cael cipolwg gywir ar ein cenedl a'n bywyd. Gwelodd George Borrow fywyd gwlad, gwelodd A. G. Bradley fywyd Cymru Fu, gwelodd Theodore Watts-Dunton y bywyd uwchaf. Yng nghanol holl ragfarn a phenboethni ei "Wild Wales," dengys Borrow ei fod ar brydiau yn gweled tuhwnt i'r llen. Gwelodd ef fod y gwerinwr Cymreig yn tra rhagori ar y gwerinwr Seisnig. Mae'r olygfa yn y dafarn yng Nglyn Ceiriog, lle cafodd yr ymddiddan â'r saer maen meddw am farddoniaeth Huw Morus, yn anfarwol. Yr oedd John Jones yn ysgrifennu, y dyn meddw yn adrodd cywydd diweddaf Huw Morus, a Borrow yn gwrandaw ac yn cyfieithu. "Golygfa mewn ty tafarn,” meddai, "ie! ond mewn tafarn yng Nghymru. Meddyliwch am feddwyn yn Suffolk yn adrodd pennillion gwely marw bardd; yn sicr, y mae cryn wahaniaeth rhwng y Celt a'r Sacson."

Ymhen blynyddoedd ar ol Borrow, cawn Mr. A. G. Bradley yn dyfod ar daith drwy Gymru, ac yn cofnodi yr hyn a welodd mewn dau lyfr. Mae gan Mr. Bradley dry sorfa eithriadol o wybodaeth am draddodiad ac hanesiaeth Gymreig; y mae wedi byw ymhlith yr hen bethau, ac y mae, am ei fod yn cael y fath bleser ynddynt, yn medru cyfleu eu hysbryd yn dda. Mae ei lyfr ar Owen Glyndwr yn gaffaeliad i'r genedl. Ond nid yw ef, rywfodd, yn dyfod mor agos at galon y bobl a Borrow, ac nid yw yn deall bywyd heddyw yn iawn.

Saif Theodore Watts-Dunton gyda Borrow, yn y radd flaenaf o ysgrifenwyr Seisnig, ac y mae "Aylwin" wedi cymeryd ei le ymhlith clasuron yr iaith. Drwy'r stori, fel gwythien aur, rhed y naws Geltig; y mae ardderchogrwydd a chyfriniaeth yr Eryri ynddi, ac y mae ef wedi llwyddo i ddangos ochr farddonol ac ysbrydol y Cymro heb ei wneud yn freuddwydiwr di-egni. A gwaith anhawdd ydyw hyn. Yn Winifred Wynne, y mae wedi rhoddi i ni eneth Gymreig nid hawdd ei anghofio, y mae mor fyw ac mor Gymreig ac mor swynol. Ychwanegir ein dyled iddo gan ei ragymadrodd i "Wild Wales" yng nghyfres Dent, lle y dengys, nid y patronage yr ydym ni wedi arfer ei gael ar law'r Sais, ond cariad gwirioneddol tuagat y wlad a'i thrigolion. Dywed yn y rhagymadrodd hwn fod swyn Cymru'r wlad yn myned yn fwy pan ddelir i adnabod Cymry'r bobl.

"Yr wyf,” meddai, "wedi ymdrin yn 'Aylwin' â barddoniaeth bywyd cyffredin Cymreig, cariad angerddol y Cymry at lain o dir Cymreig, crefydd y cartref a'r aelwyd, yr ymlyniad wrth wraig a phlant." Ymhellach dywed, "er i mi weled llawer o genhedloedd Ewrob, yr wyf yn rhoddi cenedl y Cymry, mewn llawer ystyr, yn uwch na hwynt oll. Credaf eu bod yn cyfuno barddoniaeth, miwsig, y cariad greddfol at y celfau cain, a'r arabedd sy'n nodweddu y cenhedloedd Celtig eraill, at ymarferoldeb a challineb siriol y genedl dra wahanol, a pha un y mae amgylchiadau wedi eu rhwymo mor agos -y bobl a elwir yn Anglo-Saxons. Ac am swyn y genethod Cymreig, nis gall neb sydd yn eu hadnabod fel yr wyf fi beidio sylwi arno yn barhaus. Yr oeddwn yn bwriadu i Winifred Wynne fod yn ddrych o'r eneth Gymreig fel yr wyf fi wedi ei gweled, yn gariadus, yn galon-gynhes, yn hunan-ymwadol, ac yn ddewr."

Pa le y cafodd Borrow a Watts-Dunton yr allwedd i agor drws calon y Cymro, allwedd oedd yn wrthodedig i ddynion oeddynt mor alluog a hwythau? Yn un peth mae'n rhaid fod cydymdeimlad greddfol ynddynt â'r Celt, ac nid yw y gyneddf honno, fwy na'r awen, i'w chael o chwilio. Ond yn ychwanegol at hyn, yr oedd y ddau yn deall y Gymraeg, ac yn gwybod ein llenyddiaeth. Dylai geiriau Mr. Watts-Dunton gael eu gwneud yn adnabyddus drwy Gymru yr ydym yn llawer rhy barod i dderbyn sen estron am danom ein hunain, a da weithiau ydyw cael rhywbeth arall. Yr ydym wedi clywed y Sais yn dweyd ein bod yn emotional, ac y mae Cymry wedi derbyn y dyfarniad fel un terfynol. Wrth reswm, nid ydym yn emotional o gwbl, ond yr ydym gryn lawer cyflymach ein meddyliau, ac yn gliriach ein gwelediad na'r Sais. Nis gwn am un dosbarth llai emotional nag amaethwyr Cymru, a'u cymeryd fel dosbarth, chwiliwch le y mynnoch, yn Lleyn neu Aberteifi. Mae yna ddigon o ddyfnder teimlad ac o dynerwch, ond nid rhyw lawer o feddalwch na pharodrwydd i'w ddangos. Nid dynion meddal, parod i ddagrau fu'n brwydro dros Gymru Fu; nid dynion felly naddodd Gymru Sydd allan o graig anhawṣderau.

Elfen gref arall yn y Cymro damcaniaethol ydyw pruddglwyf; nid elfen amlwg iawn yng Nghymro'r ffair a'r farchnad. Mae'n wir ei fod yn caru'r amser a fu am fod yr amser a fu yn llawn o ogoniant ei dadau, ond y mae'n edrych yn mlaen i'r dyfodol gydag hyder digwmwl hefyd. Nid yw yr hyn a eilw y Sais yn bruddglwyf ynddô ond effaith yr ysgol sydd wedi ei gadarnhau a'i ddwyseiddio, ysgol y mynydd a glannau'r moroedd, ysgol brwydro caled am damaid prin, ysgol yr ymdrechfeydd ysbrydol cadarn. Y mae llenyddiaeth Cymru yn llawn o londer a nwyfiant, y mae bywyd heddyw yn llawn o obaith ac o egni ar gyfer y dyfodol,

Mae'r darlunydd cywir eto i ddod. Yn wir, nis gall un dyn wneud y gwaith, y mae'r maes yn rhy fawr ac yn rhy ddyrus. Mae'r anhawsderau yn fawr iawn, ac nid y lleiaf ohonynt ydyw anhawsder yr iaith. Mae'n rhaid i'r ysgrifenwr gyfieithu y meddyliau a'r brawddegau, a gwaith anhawdd fydd hynny heb golli llawer o'u naturioldeb, canys gwyddom fel mae tafodiaith yr Alban yn gwneud ystoriau Scott a Barrie mor naturiol a chartrefol. Mae'n amhosibl cadw blas "Rhys Lewis" wrth ei gyfieithu, a bydd yn anhawdd cadw blas bywyd Cymreig wrth ysgrifennu am dano yn Saesonaeg Ond yr wyf yn disgwyl y cyfyd rhywun yn ddigon mawr, yng ngrym ei athrylith, i orchfygu yr anhawsderau hyn, ac y daw yn fuan. Mae Cymru'n parhau'n Gymru o hyd, ond ofer gwadu fod yr hen bethau yn myned heibio, yr hen fywyd yn darfod, yr hen ddulliau yn diflanu. Cyn pen hir iawn bydd Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn draddodiad, a bydd Cymru Fydd, ieuanc a llawn gobeithion, yn edrych yn ol at yr hen amser gyda pharch, ond yn analluog i'w ddarlunio. Heddyw y mae llawer o'r hen fywyd gwladaidd, tawel yn parhau, ac mae'r hen ddull o feddwl eto'n fyw. Ond lliwiau diflanedig fyddant os na ddaw ryw arlunydd i'w dal. Tybed nad oes gennym rywun a fedr greu Rob Roy neu Dr. Wishart Cymreig ? Mae'n rhaid i'r sawl wna hyn fod yn Gymro, wedi byw ein bywyd, a chyda theimladau, naws, a rhagfarn y Cymro yn ei galon, ond yn ddigon mawr i hawlio sylw y Sais. Gresyn na ddeuai y dyn, rhywun â'r medr i greu Cymru yn ei stori, rhywun all ddangos y fath nerthoedd, cadarn yn eu symlrwydd, fu'n gweithio er ein gwneud yr hyn ydym. Yn y bwthyn, y cwm, a'r capel unig y tarddodd y dylanwadau, ac y mae'n rhaid cael rhywun sydd a'r pethau hyn yn ei galon i wneud y gwaith yn iawn.

Caernarfon.

E. MORGAN Humphreys.

YR ESGYNFA DRWY GRIST.*

DIAU y cydsynir yn lled gyffredinol fod y llyfr hwn yn trafod un o westiynau mwyaf byw yr oes hon ym myd y gwyddonydd a'r duwinydd, sef Damcaniaeth Dadblygiad, fel y mae yn ffinio ar diriogaeth rhai o athrawiaethau mawrion y datguddiad dwyfol; megis Cwymp Dyn, Ymgnawdoliad Duw, ac Adgyfodiad y Meirw. Teimla pawb ohonom bwysigrwydd yr athrawiaethau hyn; felly nid diystyr genym beth a ddywed gwyddonwyr drwy enau Damcaniaeth Dadblygiad am bethau ydynt yn dal cysylltiad agos o angenrheidrwydd â'r cyfryw athrawiaethau.

Ar y Raglith i'r llyfr yn unig y gwnawn sylwadau. Nid gormodiaeth yw dweyd fod y Rhaglith yn llafurfawr, galluog, a dyddorol; a dylem ninnau astudio y Rhaglith yn drwyadl cyn anturio at benodau y llyfr. Saif y Rhaglith y gyffelyb berthynas i'r llyfr ag y saif yr haul i'r ser, yng ngoleuni y Rhaglith y gwelwn syniadaeth yr awdwr yn y pennodau.

Dug yr awdwr y fanon enwog Dadblygiad i'n sylw yma yn y modd mwyaf graceful, hudolus, ac ymddangosiadol deg; a phosibl y bydd i ni, cyn nemawr o amser gael ein swyno gan brydferthwch ei gwedd, fel ag i awyddu ymgydnabyddu mwy â hi, ac yna, geisio am ei llaw a'i chalon, ac yn y diwedd fynd drwy ffurf gwasanaeth priodasol, a dywedyd, “Lle yr ei di, yr âf finau." Ceir gweled yn y man.

Ond fel y dywed yr Ysgrythyr, fod " rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant," felly hefyd y mae gwahaniaeth rhwng dadblygiad a dadblygiad ym myd gwyddonwyr, Dwy ddamcaniaeth arbennig a ddosrana y gwyddonwyr, sef y Fateryddol a'r Ddwyfyddol; mae un yn anffyddol, ac heb Dduw; y llall yn Gristionogol, gan gydnabod Duw. Ond fel yr ydych wedi sylwi, yn ddiau, mae y Ddamcaniaeth Fateryddol yn gorfod symud o'r maes o gam i gam, a bron nas gellir dweyd erbyn hyn ei bod wedi llwyr symud ymaith. A oes rhyw un neu ddau y dylem wneud eithriad ohonynt ?

Yr oedd Charles Darwin, fel y gwyddoch, yn addef ei fod wedi ei wasgu gan ei ddamcaniaeth ei hun, i gydnabod y rhaid fod Duw yn gweithredu gyda dechreuad bywyd, am nas gallai bywyd fod yn hunangynyrchydd; felly nis gellir dweyd fod Darwin yn ddadblygydd materol, pure and simple, fel y dywedir; ac nid yw Herbert Spencer heb fod bron ar yr un tir, er mai The Unknowable Some.

[ocr errors]

The Ascent through Christ." Llyfr y Parch. E. Gritffih Jones, B.A. Darllenwyd y papur hwn ar gais i Gyfarfod Gweinidogion yr Efengyl.

thing y dewisa efe alw Duw, fel erbyn hyn y gellir dweyd fod pob dadblygydd o bwys yn ffarwelio â'r Ddamcaniaeth Fateryddol. Felly y mae Mr. Griffith Jones yma yn ymwrthod â'r fateryddol, ac yn sefyll dros y ddwyfol; yna yn dilyn Darwin yn hanfod y ddysgeidiaeth, ond yn proffesu gwahaniaethu mewn manylion.

Bellach, gadewch i ni sylwi ar y dull swynol y dug yr awdwr ddamcaniaeth dadblygiâd i'n gwyddfod ym mhenod gyntaf y Rhaglith. Cyfeiria at ddylanwad ymeangiad ein syniadaeth mewn gwybodaethau yn gyffredinol i gynnyrchu parodrwydd yn ein meddyliau i wneud anturiaethau mwy nag a arferai ein tadau. Megis :

1. Eangiad ein syniadaeth yn nghylch Gofod. Ychydig ganrifoedd yn ol, yr oedd syniadaeth y byd yn gyfyng iawn yn nghylch gofod. Edrychid ar y ffurfafen las uwch ben fel nenfwd faterol, a'r ser wedi eu dodi ynddo yn lampau i olẹuo ein daear fwy ni yn y nos. Mor blentynaidd gynt! Ond o ddyddiau Copernicus i lawr, mae y syniadaeth am ofod y ffurfafen wedi newid yn hollol.

2. Eangiad ein syniadaeth yn nghylch Amser. Oddeutu can' mlynedd yn ol, ni ystyrid oedran amser ond cydmarol fyrr, dim ond rhyw chwe' mil o flynyddoedd er creadigaeth nefoedd a daear. Cyfrifid yr estynai rhyw ddau gant o genhedlaethau o ddynion dros holl derfynau amser o'i ddechreuad. Hyn a gyfrifid yn hyd y daith at ystyr adnod gyntaf Genesis, " Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear." Ond erbyn hyn, cydnabyddir ei bod yn angenrheidiol i fynd yn ol am filiynau o flynyddoedd tuhwnt i'r chwe' mil gael gafael ar y dechreuad hwnnw.

3. Ac yna wedi newid ein syniadaeth am Ofod, ac Amser, mor fawr, yr anturiwn bellach i ofyn y cwestiwn, Pa fodd? Pa fodd y cafodd y bydysawd fodolaeth? Seryddiaeth a'n symudodd yn nghylch eangder gofod; Daeareg a'n symudodd yn nghylch meith der amser; ond Dadblygiad sydd yn ein symud at y cwestiwn, Pz fodd? Swynwyd rhai gynt, fel y cyfeiriwyd, i gofleidio y syniad mai rhyw ynni, tybiedig gynwynol mewn mater ei hun, fu yn araf ddodi ffurf a bod i bethau; ond ereill yn ngoleuni rheswm mwy addfed, yn gystal a goleuni Datguddiad, yn myned tuhwnt i'r ynïon oll, at Fod personol, a fu yn llywyddu y cyfan i'w ffurf yn gystal ag i'w bod, ac yn canfod hefyd mai Dadblygiad cymeriad moesol dyn yw y nod uchaf gan y Bod personol yn yr oll. Mae hyn yn codi cwr y llen i ni, i ddangos nad gwaith annyddorol yw yr astudiaeth hon.

4. Yn mhellach, dywed yr awdwr fod yr eangiad parhaus hwn mewn syniadaeth am y bydysawd gwrthrychol, yn dylanwadu ar ddyn yn ei berthynas a'i syniadaeth am dano ei hunan. Megis, am un a fo wedi arfer byw mewn bwth bychan, unwaith, i ateb i'w am

« PreviousContinue »