Page images
PDF
EPUB

Y DDAU GYMRO.

DYWEDIR mai'r peth anhawsaf i ddyn ei wneud yn iawn ydyw adnabod ei gyd-ddyn. Y mae hyn yn wir am ddynion o'r un gwaed, o'r un teimladau a thraddodiadau, o'r un nodweddion meddyliol. Y mae pob un ohonom, yng ngeiriau Arnold, yn sefyll ar ei ynysig fechan ei hunan, ac mae'r dyfroedd dyfnion a'r niwl yn ein gwahanu oddiwrth ein brodyr-hyd yn nod frodyr o'r un bru ac o'r un gwaed. Llawer cryfach yw'r dywediad pan gymhwysir ef at wahanol genhedloedd, at ddynion wedi eu dwyn i fynu mewn awyrgylch o draddodiadau gwahanol, wedi eu maethu ar ysbrydiaeth arall, ac wedi ffurfio nodweddion arbennig. Cyn y gallwn ddisgwyl i ddwy genedl gael amgyffrediad am eu gilydd, lawer llai dealltwriaeth glir, y mae'n rhaid cael rhywun o alluoedd mwy na'r cyffredin, yn deall calon ei genedl ei hun yn drwyadl, beth bynnag, i'w hesbonio i'r llall mewn dull teilwng o'r ddwy blaid. Ni wna dim hyn ond llenyddiaeth, a honno yn llenyddiaeth fawr.

Mae hyn yn beth mor amlwg, ac mae'r gwaith, rywfodd, mor swynol, fel y mae llawer wedi ymgymeryd âg ef. Ond os yw'r gwaith yn swynol, mae'r peryglon a'r anhawsderau yn fawr, a gwyddom am lawer ymgais o'r fath wedi troi'n fethiant llwyr oherwydd gwendid gallu llenyddol y cyfryngwr, neu o ddiffyg ei adnabyddiaeth o'r genedl y ceisiai ei disgrifio. Ac oddiwrth hyn yr ydym ni, fel cenedl, wedi dioddef llawer. Mae'r Cymry a'r Saeson yn gymydogion mor agos fel mai naturiol ydyw i'r naill gymeryd cryn lawer o ddyddordeb yn y llall. Yr ydym erbyn hyn, i raddau pell, yn gymhleth â'n gilydd, ond er hynny oll, yn cadw ein nodweddion dyfnaf ein hunan heb eu newid. Gan ein bod ni, gan mwyaf, yn deall iaith y Sais, y mae llawer wedi ei esbonio i ni, ac wedi egluro ei holl nodweddion, ond y mae ef hyd heddyw yn edrych dros Glawdd Offa mewn penbleth, ac yn gwneud y damcaniaethau rhyfeddaf am y bobl sydd yn byw am y gwrych âg ef. Terra incognita ydyw Cymru i'r mwyafrif o Saeson o hyd, am nad oes neb wedi ei dadguddio iddynt. Am nas gall y Sais ddarllen ein llenyddiaeth ni, y mae dan anfantais o hyd i'n deall fel cenedl, canys nis gallwn bwysleisio gormod ar y ffaith mai trwy lenyddiaeth y mae un genedl yn dyfod yn esboniadwy i'r llall.

Yr anfantais o'n tu ni ydyw hwn: nid oes gennym, ac ni fu gennym, neb tebyg i Scott, Burns, a Barrie, yn ysgrifennu iaith yr estron, ond gyda meddwl a chalon y genedl. Hyd yn lled ddiweddar. bu yr Iwerddon dan yr un anfantais. Derbyniai y Sais nofelau

Lever fel darluniau campus o fywyd Gwyddelig, ond gofynwch i'r Gwyddel, ac fe wâd yn bendant eu bod yn ddarluniau cywir o gwbl. Nid yw yn eu derbyn nac yn eu cydnabod. Amheuaf a oedd Tom Moore, er melused ei ganu am yr hen Ynys Werdd, yn rhoddi mynegiant llawn i ysbryd y genedl. Gwyddom hyn drwy gymharu gwaith dynion fel Moore a gwaith dynion fel W. B. Yeates, George Moore, ac ysgol o feirdd a llenorion newydd, yn deall yr hen iaith, yn gwybod yr hen draddodiadau, ac wedi byw y bywyd y maent yn ceisio ei ddarlunio. Drwyddynt hwy y mae'r Gwyddel yn siarad

wrthym.

Ond nid oes gennym ni neb o'r ansawdd yma eto, ac y mae'n rhaid i'r Sais, megis dan ei ddwylaw, ymbalfalu am ein nodweddion a cheisio ein disgrifio goreu y gallo. Am mai Sais ydyw, wrth reswm nid ydyw yn petruso gwneud hynny, a'm hamcan i wrth ddewis y testyn oedd ceisio cyferbynu y Cymro fel y mae'n ymddangos drwy lygaid y Sais yn ei lenyddiaeth, a'r Cymro fel y mae -dau beth lled wahanol. Y mae y gallu "to see ourselves as others see us" bob amser yn ddyddorol, ond nid bob amser yn fuddiol, canys y mae'r "others" weithiau yn gwneud camgymeriadau dybryd, ac yr wyf yn meddwl fod y mwyafrif o Saeson wedi gwneud hynny yn yr achos hwn.

Feallai mae'r ffordd oreu i gyrraedd yr amcan ydyw cymeryd cipdrem yn ôl ar gysylltiad y ddwy genedl. Dechreuodd dyddordeb y Sais, neu yn hytrach, y Norman, yn y Cymry yn foreu iawn, a dechreuodd mewn gelyniaeth boethlyd. Yr oedd y Norman wedi llwyddo i oresgyn Lloegr megis mewn un dydd ar faes Hastings, a chan iddo gael y wlad yn ysglyfaeth mor hawdd, edrychodd arni ac ar ei thrigolion a'u hiaith gyda gradd o ddirmyg. Ond nid mor hawdd oedd Cymru i'w goresgyn; glaniodd Gwilym y Norman yn 1066, dechreuodd frwydro â'r tywysogion Cymreig yn fuan, ond, er llawer helynt, yr oedd yn 1282 cyn i Gymru gwympo, Nid rhyfedd fod gelyniaeth yn bod, ond nid oedd le i ddirmyg. Ar ei wely marw soniodd Gwilym am y Cymry fel pobl ag y bu mewn brwydrau peryglus â hwynt, a thebyg ydyw tystiolaeth Giraldus: "They earnestly study the defence of their country and their liberty," meddai, "and for these willingly sacrifice their lives. They esteem it a disgrace to die in bed, an honour to die on the field of battle.'

Parhaodd y Sais i goleddu syniadau uchel am ddewrder ein cyndadau am rai cannoedd o flynyddoedd. Dyma, mae'n amlwg, y syniad oedd uwchaf yn ei feddwl. Ni thalwyd mwy o warogaeth i genedl mor fechan erioed na chan Iorwerth y Cyntaf, pan yr adeiladodd ei gestyll anferth yng Nghonwy, Beaumaris, Caernarfon, Harlech, ac Aberystwyth, a saif y rhai hyn hyd heddyw yn arwydd

o barch y concwerwr i'r genedl a orchfygodd. I lawr hyd amser y Frenhines Elizabeth cawn fod yr un teimlad yn fyw-cyfnod oedd hwn ym mha un yr edrychid ar y Cymro fel arwr ac fel dyn teilwng o barch. Yn ei "Worthiness of Wales," yn 1587, dywed Churchyard fod y Cymry'n " rhagori cymaint mewn ffyddlondeb nes fod yr enw o dorwr amod, llofrudd, neu leidr, yn atgas yn eu plith." Mae'n amlwg nad oedd Churchyard o'r un farn a'r brawd hwnnw a gyfansoddodd y pennill anfarwol,

[ocr errors]

66

Taffy was a Welshman,
Taffy was a thief."

Drwg gennyf nad wyf yn gwybod enw nag amseriad awdwr y geiriau hyn, ond y mae ei farddoniaeth yn hollol gydweddol â barn a gallu meddyliol llawer o Saeson.

Gŵyr y sawl fu'n darllen “Fairy Queen" Spencer ei fod yntau wedi taflu golwg yn ôl ar hen arwyr Cymru, ac wedi plethu eu henwau yn ei gerdd. Llai adnabyddus, feallai, ydyw "Polyolbion " Michael Drayton, yr hwn oedd yn ysgrifennu yn 1613, ond gallwn ymfalchio yn nhystiolaeth yr hen Sais athrylithgar i'n cenedl. Dyma ei eiriau mewn un man am y Cymro,

[ocr errors]

A patriot, and so true that to the heart him greeves

To heare his Wales disgrace't; and on the Saxon swords
Oft hazardeth his life, ere with reproachfull words

His language or his leeke he'll stand to heare abused."

Amser oedd hwn cyn i Gymry ddysgu cywilyddio am eu hiaith a'u cydgenedl. Mae'n rhaid cofio fod hanes Cymru gryn lawer yn nes at bobl yn yr oes honno hefyd. Nid oedd fawr dros dri chant o flynyddoedd er pan fu farw Llywelyn, ac nid oedd ond dau gant er pan fu farw Glyndwr. Yr oedd y traddodiad am Gymru ryfelgar, ddewr, ac anibynnol yn fyw ym meddyliau y Saeson, a dyna iddynt hwy brif nodweddion y genedl.

"An old and haughty nation, proud in arms,"

meddai Milton, ac y mae darluniad Shakespeare o'r cymeriad Cymreig yn rhy adnabyddus i mi golli fawr amser gydag ef. Dyn yn llawn o dân arwrol yw ei Lyndŵr ef.

"In faith he is a worthy gentleman,
Exceedingly well read, and profited,

In strange concealments, valiant as a lion
And wondrous affable, and as bountiful
As mines of India."

Dyn dewr, gwyllt ei dymher, ond yn caru ei anrhydedd ac anrhydedd ei wlad ydyw Fluellen, ac nid oedd ofn yn agos at galon Syr Hugh Evans. Y mae gan Ben Jonson, cydoeswr Shakespeare, un

cyffyrddiad tarawiadol hefyd. Soniai ef am "Evans, the attorney, a very self sufficient, litigious fellow in the terms, and a fine poet out of the the terms." Mor ychydig yr ydym yn newid.

Ond yr oedd Cymru yn awr ar ffin oes dywyll. Yr oedd yr hen draddodiad am ogoniant y dyddiau fu yn cilio fel y cilia lliwiau'r dydd o awyr yr hwyr. Yr oedd dydd ei deffroad eto'n mhell; yr oedd y nos gerllaw. Ar ol y cyfnod yr wyf wedi son am dano, cyfnod "tinc arfau tros y terfyn," daeth cyfnod arall, a syrthiodd Cymru i anfri ymhlith y Saeson; i anfri mer lwyr fel yr ydym ni, yn yr ugeinfed ganrif, yn brofiadol o ryw ran ohono. Ymlithra y teimlad o ddirmyg i mewn i lenyddiaeth Seisonig. Dywed Pepys yn ei ddydd-lyfr, yn hollol ddidaro, iddo weled yn Llundain, ar Ddydd Gwyl Dewi, 1666, ddelw dyn wedi wisgo fel Cymro yn cael ei grogi gerfydd ei wddf y tuallan i un o'r masnachdai, a gwneir cyfeiriad at yr un ddefod sarhaus mewn hen almanac am y flwyddyn 1750. Gwneir ymosodiad ffyrnig ar Gymry gan un "W. R." mewn llyfr a elwid "Wallography" yn 1682, ac un o'r pethau mwynaf a ddywed am danom ydyw ein bod "of a boerish behaviour, of a savage physiognomy." Nid oes fawr o hyfrydwch i'w gael o ymdroi â phethau fel hyn, ond y mae'n werth sylw mai oddiwrth lenyddiaeth gyffelyb, yr un mor ragfarnllyd, a'r un mor anwybodus y ffurfiwyd barn y mwyafrif o Saeson am ugeiniau o flynyddoedd am ein gwlad. Mae'n anhawdd rhoddi rheswm digonol am yr anfri a'r diystyrwch ond yna y mae.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif mae Cymru yn cael ei gadael bron yn hollol ddisylw yn llenyddiaeth Lloegr, ond erbyn hyn yr oedd y wlad ei hun mewn corwyntoedd deffroad. Ond nid oedd y Sais yn gwybod hynny. Credai ef fod cenedlaetholdeb y Cymro wedi marw. Dywed Steele, modd bynnag, yn y Tatler fod y Cymru'n genedl o foneddigion, a bu Steele druan farw yn ein plith. Er iddo fod ar daith yng Nghymru nid oes gan Dr. Johnson ddim neillduol i'w ddweyd am danom, ac yr oedd yn ormod o Sais, ac o gynnyrch ei oes i'n hystyried yn werth rhyw lawer o sylw. Mae gan Smollet gymeriadau Cymreig, ond Cymreig mewn enw yn unig -nid oes wahaniaeth gwirioneddol rhyngddynt a'r Saeson yn yr un llyfrau. Y mae gan Syr Walter Scott un stori yn ymwneud â Chymru, ond y mae yn mhell o fod ymhlith ei bethau goreu, ac fel darluniad o fywyd Cymreig prin y mae'n werth sylw. Nid oedd neb yn ceisio deall y genedl; nid oedd neb yn gwybod digon am dani i gynnyrchu awydd ynddo am gael gwybod mwy. Edrychid i lawr arnom fel cenedl, a chawn ddyn fel Savage Landor yn ysgrifennu o Lanthony yn 1809 fel hyn: "The earth contains no race of human beings so totally vile and worthless as the Welsh."

Ond ar ol yr hir-nos dywyll yr oedd dydd yn dechreu gwawrio ar Gymru. Deffrodd ei meddwl a'i chenedlaetholdeb. Magodd ddyn. ion na fu eu gwell erioed; dechreuodd ddeffro i bwysigrwydd ei hiaith a'i llenyddiaeth. Yn araf, dechreuodd ymledu ac ymeangu dros ei therfynnau, a gorfu i'r Sais deimlo fod Cymru'n fyw, ac yn dyfod yn allu. Erbyn hyn mae cyfnewidiad mawr wedl cymeryd lle, ac y mae digon i'w cael heddyw sydd yn ceisio darlunio y fath rai ydym. Gwelsom gyfnod pan yr edrychid ar y Cymro fel arwr a rhyfelwr; gwelsom wed'yn y cyfnod tywyll pan ei dirmygid; yr ydym yn awr yn byw yn oes y Cymro damcaniaethol-y theoretical Welshman.

Allen Raine gyfododd y gelf hon i'w bri mwyaf, a barnu oddiwrth stoc ein llyfrwerthwyr mae gwerthu da ar ei llyfrau. Nid oes gennyf ddim i'w ddweyd yn erbyn hynny tra na fyddo neb yn tybied eu bod yn ddarluniau o Gymru. Ni welwyd Cymry erioed yr un fath a'i Chymry hi, ond wrth ei barnu y mae'n rhaid cofio mai yn y drydedd neu'r bedwaredd radd y mae ei lle—ac nid ydym yn disgwyl perffeithrwydd yn y fan honno. Ysgrifenna hi mewn dull digon darllennadwy mae'n ddiau, ac y mae wedi gweled cryn lawer o fywyd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, ac hyd y mae hynny yn myned, mae yn darlunio allanolion y bywyd hwnnw yn eithaf cywir. Ond nid y Cymro sydd yn byw yn ei llyfrau. Creadur pruddglwyfus, breuddwydiol a greodd hi, ac wedi ei greu y mae yn e batronisio, ond nid yw calon na meddwl y Cymro erioed wedi agor iddi. Teimlaf fod yr un cyhuddiad yn wir yn erbyn William Edward Tirebuck a Gwendolen Price. Yr argraff a adewir ar fy meddwl gan lyfrau fel eiddo Miss Price ac R. M. Thomas, awdwr "Trewern,” ydyw mai rhyw groes rhwng traethawd ar fywyd Cymreig a nofel ydynt. Y mae'r amgylchiadau a'r mân bethau yn cael gormod o sylw, ac mae'r peth mawr yn llithro heibio-heb ei weled. Yr un peth yn sylfaenol, wedi'r cwbl, ydyw bywyd mewnol y Cymro a bywyd mewnol y gweddill o'r byd, ond fod yno ryw ddylanwadau anhawdd eu disgrifio, rhyw gysgodau anhawdd eu gweled, ond y rhai, er hynny, sydd yn gwneud yr holl wahaniaeth. Cydmarwch ddull Allen Raine â dull Winnie Parry. Yn ei "Sioned' hi ni osodir gormod o bwys ar yr amgylchiadau; sonir am danynt pan y mae hynny yn angenrheidiol, ac y mae gair yn y lle iawn yn gwneud y gwaith. Ond y mae gwynt y mynydd yn chwythu drwy'r hanes, a lleisiau ei dynion a'i merched yn siarad wrthym. Mae drws y bwthyn a'r ffermdy yn cael ei agor i ni, ac y mae bywyd y bobl-ein bywyd ni-yn cael ei osod o'n blaen.

Y mae ymgais wedi ei wneud hefyd i ddarlunio bywyd Cymru Fu --maes ardderchog, yn llawn defnyddiau rhamant a swyn. Yr unig awdwr o fri yn y maes hwn ydyw Owen Rhoscomyl. Y mae

« PreviousContinue »