Page images
PDF
EPUB

ei hun am i siroedd eraill roddi prawf arni, er datgan yn glir mai nid fel matter of expediency yr edrychai ef o gwbl ar y Fugeiliaeth."*

Nid ydym wedi gadael i ni ein hunain ond ychydig iawn o'r gofod gweddill i ymdrin â'r gwaith mawr arall a wnaeth Mr. Morgan yn ei oes, sef y Casgliad at Gronfeydd yr Athrofa. Ni chawn ond gwneud cyfeiriad byr at y gwaith hwn. Hawdd deall fod cysylltiad agos iawn rhwng y naill waith a'r llall. Os oedd angen ar yr eglwysi am fugeiliaid cymwys, rhai a allent gyfranu addysg i'r aelodau, ac i'r bobl ieuainc yn arbennig, yr oedd yn rhaid i'r cyfryw fugeiliaid gael addysg eu hunain, ac i'r diben hwnnw, drachefn, rhaid oedd cael Athrofa, ac nis gellid cynnal yr Athrofa heb arian. Gan nad oedd casgliadau blynyddol yr eglwysi yn debyg yn hir o gyfarfod yr anghenion, y canlyniad ydoedd fod yn rhaid sefydlu cronfa effeithiol er gosod yr Athrofa ar safle diogel. Mae yr amgylchiadau a arweiniodd i benodiad Mr. Morgan fel casglydd yn cael eu nodi gan Mr. Ellis gyda'i fanylrwydd arferol. Crybwyllwyd ei enw fel un cymwys i'r gwaith yng Nghymdeithasfa Bangor, yn 1856, a phenodwyd ef i'r gwaith yng Nghymdeithasfa yr Wyddgrug yn niwedd yr un flwyddyn. Yr oedd Mr. Morgan yn ddeugain mlwydd oed, a'i iechyd, er ei fod yn wanaidd bob amser, yn weddol dda ar y pryd. Gobeithion uchaf rhai o brif arweinwyr y Cyfundeb oedd y gellid casglu tua phum' mil o bunnau, ond y nod a osododd Mr. Morgan iddo ei hun oedd ugain mil o bunnau. Ymaflodd yn ei waith ar unwaith. Mae yn demtasiwn gref i ni roddi dyfyniadau helaeth o'r Cofiant sydd yn disgrifio y llafur enfawr yr aeth iddo, ac yn arbennig i roddi detholiad o rai o anerchiadau Mr. Morgan, ond ni fyddai hynny ond yn tueddu i ddinistrio y blas a geid ar y danteithion sydd yn aros pob un a ddarlleno y llyfr drosto ei hun.

[ocr errors]
[ocr errors]

*" Y mae yn rhydd" i ninnau ddweyd yn awr mewn nodiad fel hyn ein bod yn credu yn ostyngedig mai nid y tir Ysgrythyrol oedd cadarnaf o lawer y safai y dadleuwyr dros Fugeiliaeth arno. Pwysent feallai yn ormodol ar y geiriau, Felly yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sydd yn pregethu yr Efengyl fyw wrth yr Efengyl' a geiriau eraill yn y Testament Newydd, fel y gwnai Luther gyda'i "Hoc est corpus meum," fel pe buasai swn y geiriau heb ymdriniaeth pellach yn ddigon i derfynu pob dadl. Anturiasom ni ddweyd hynny wrth adolygu llyfr Dr. Hughes ar y Weinidogaeth ryw chwe' blynedd ar hugain yn ol. Pe buasai y Doctor dysgedig ddäed ag adolygu yr ysgrif honno, fel yr addawodd wrthym ei fod yn bwriadu gwneud, dichon yr argyhoeddasid ni o'n camgymeriad. Ond ni wnaeth, ac y mae y feirniadaeth yn aros, er i ni ryfygu cwestiyno esponiad rhai gwyr enwog iawn. Hwyrach y dylasem wybod yn well, ond yr ydym eto, o ran hynny, yn methu gwel'd gwendid y tir ar ba un y safem. Ond pa beth bynnag a dd wedir am y wedd Ysgrythyrol am y Fugeiliaeth, fel y cymhwysid hi at sefyllfa pethau ar y pryd, y mae y Cofiant hwn gan Mr. Ellis yn dangos y tuhwnt i bob dadl fod amgylchiadau Cyfundeb y Methodistiaid pryd hwnnw yn ei wneud yn angenrheidiol anhebgorol i symud yn y cyfeiriad hwnnw er atal ei ddirywiad, os nad ei ddifodiant yn y dyfodol, ac y mae Mr. Morgan, am ei dwyn oddiamgylch, yn haeddu coffadwriaeth barchus a diolchgar pob aelod o'r Cyfundeb Fethodistaidd.

Teithiodd Mr. Morgan trwy Gymru a threfydd Lloegr i ddadleu achos y cronfeydd, a phwy sydd yn awr o'r rhai oedd yn fyw y blynyddoedd hynny, ac a'i clywsant ef yn dadleu gyda'i hyawdledd a'i ffraethineb digyffelyb a all byth ei anghofio? Mynych y byddai y cynnulleidfaoedd, ar ol pregeth flasus oedd yn eu codi megis i'r drydedd nef, yn teimlo yn flin pan droai Mr. Morgan eu sylw at y casgliad, ond ni fyddai wedi bod ond munud neu ddau ar ei draed na theimlai pawb wrth eu bodd yn gwrando arno, a dechreuent ymbafalu tua chyfeiriad eu llogellau. Mae Mr. Ellis yn dyfynnu allan o gofiant y Parch. Henry Rees, gan Dr. Owen Thomas, y disgrifiad a roddir o Mr. Rees, yr hwn oedd y cadeirydd, yn galw ar Mr. Morgan yn "Seiat Fawr" y Sulgwyn, yn yr Amphitheatre yn Liverpool. Ymesgusodai trwy ddweyd ei fod yn wr o un idea, ond nad oedd ganddo ddim i'w wneud ond "ei ollwng ef arnynt." Da yr ydym yn cofio yr amgylchiad a'r effaith drydanol a gafodd cyfarchiad Mr. Morgan gyda'i idea fawr oedd wedi cymeryd meddiant ohono; idea ag oedd yn werth, chwedl yntau, ugain mil o bunnau. Mae geiriau Mr. Rees a Mr. Morgan i'w cael ar tudalen 311 o'r Cofiant, ac y maent i ni oedd yn bresennol yn y Seiat Fawr, er ein bod wedi eu darllen o'r blaen yng Nghofiant Henry Rees, yn ddyddorol dros ben. Teimlai pawb, oherwydd y modd deheuig yr anerchai Mr. Morgan y dorf, fod y disgyniad o'r ymdriniaeth flaenorol ar "Ogoniant yr Eglwys" at gasgliad y gronfa yn un perffaith naturiol; mor naturiol, yn wir, ag ydoedd eiddo yr Apostol Paul ar ol trin athrawiaeth fawr yr Adgyfodiad yn disgyn yn sydyn i ddweyd: "Hefyd am y Gasgl i'r Saint." Yr oedd Mr. Morgan, medd Mr. Ellis, "mor llawn o arabedd bywiog a ffraethineb pert, yn wir o athrylith diamheuol, fel y gwnaethant argraff arhosol ar y wlad."

Byddai casgliad o rai o'r pethau rhagorol a ddywedodd ar yr achlysuron hyn yn ddiau yn ychwanegiad dyddorol at ein llenyddiaeth. Yr ydym yn ei goflo yn Nolgellau yn gwefreiddio cynulleidfa o brif wyr y Cyfundeb wrth adrodd am ei daith trwy Sir Fon yn achos y casgliad. Pan aeth gyda Dr. Owen Thomas i dalu ymweliad dros y Gymanfa a Phresbyteriaid Belfast yn 1863, er iddo orfod siarad yn Saesneg, ac ar ol rhoddi desgrifiad campus o'r Cyfundeb Methodistaidd, yr oedd yn rhaid iddo gael bwrw allan ei one idea, sef am y casgliad, ond gwnaeth hynny mewn modd ag oedd yn taro y lliaws â syndod.

Mae rhai o'i areithiau ar y casgliad yn emau mewn prydferthwch. Ac nid oedd modd gwrthsefyll ei daerineb. Aeth Dr. Franklin unwaith, meddir, i wrando yr enwog George Whitefield, gan lwyr benderfynnu na roddai un geiniog yn y casgliad a bleidiai, ond effeithiodd Whitefield arno gymaint nes bu raid iddo roi yr oll oedd yn ei logell. Yr un modd nid oedd modd gwrthsefyll Mr.

Morgan: fel y dwedodd Mr. Rees ar yr amgylchiad y cyfeiriwyd ato eisoes, pan yn son am ei one idea: :-"Oblegyd honno fel yr wyf yn clywed y mae yn ei argymhell ymhob man. Am arian, arian, ac arian y mae oddiwrth bawb; ac y maent yn dweyd nad oes dim boddloni arno hebddynt. Ac nid yn unig hynny, ond ei fod yn bur sicr, os na byddwch chwi yn wyliadwrus iawn arnoch eich hunain o fyned i'ch pocedau, os nad aiff a hwy o'ch calonau chwi."

Cofier fod Mr. Morgan yn gorfod cario ei waith ymlaen mewn llawer man ynghanol gwres y Diwygiad grymus oedd yn ysgwyd yr holl wlad, pryd nad oedd llawer o flas ar y son am gronfa. Nid rhyfedd i hen frawd ddweyd pan benodwyd y brwdfrydig Dafydd Dafis y Bermo i gynorthwyo Mr. Morgan y Dyffryn gyda chasgliad yr Athrofa: "Trefniant rhagorol: Dafydd Dafls i hel y defaid i'r gorlan, ac Edward Morgan i'w cneifio."*

Yn Medi, yng Nghymdeithasfa Bangor, yr oedd gan Mr. Morgan y newydd cysurus i'w hysbysu fod y swm anrhydeddus o ugain mil o bunnau wedi dyfod i law, a phan gwblhawyd y gwaith yr oedd swm y casgliad dros bedair mil ar hugain o bunnau, a chyda'r llogau nid oedd ond ychydig islaw chwe' mil ar hugain o bunnau.

Ond nid dyna'r cyfan yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd y gwaith a wnaeth mor gymeradwy fel y gwobrwywyd ef â'r cyfrifoldeb ychwanegol o gael ei benodi, yn Ebrill, 1864, i geisio casglu swm ychwanegol o chwe' mil o bunnau tuagat yr adeilad. Ymgymerodd yntau â'r cyfrifoldeb ychwanegol hwn. Disgwyliai, meddai, y buasai goreugwyr y Methodistiaid yn gwneud hyn o waith, oblegyd, meddai, "pan yr oeddid yn adeiladu y tabernacl gwahoddid yr holl bobl i gyfranu ato, ond wrth adeiladu y deml, Dafydd a'r tywysogion yn unig oedd yn cael yr anrhydedd." Pa fodd yr aethpwyd ymlaen gyda'r casgliad hwn a'r gwaith a wnaeth Mr. Morgan ynglyn âg ef nid oes gennym ond dweyd "wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau gweledydd" craffus awdwr y Cofiant hwn, a chaiff y darllennydd ddifyrwch ac adeiladaeth nid bychan wrth eu darllen.

Fe wel y darllennydd ein bod wedi ymollwng i draethu yn gyfangwbl ar ddau brif waith Mr. Morgan, ei lafur gyda'r fugeiliaeth a chyda'r cronfeydd. Nid ydym wedi dweyd dim am brif ddigwyddiadau ei fywyd: a phaham y rhaid, gan y desgrifir hwynt gyda'r fath fedr a dyddordeb yn y gyfrol drwchus hon? Nid oedd Mr. Morgan ond 54 mlwydd oed pan y bu farw, a bu yn ymladd âg afiechyd a nychdod drwy ei oes; ac eto, cymaint o waith a wnaeth! Ac nis gallwn ymatal rhag dweyd yn y fan hon, ein bod yn credu pe cawsai fyw yn hwy y gwelsai fod gwaith arall i'w gyflawni cyn y buasai y gwaith mawr a gyflawnodd efe wedi ei gwblhau. Y gwaith

Gwel "Dafydd Morgan a'r Diwygiad '59,' td. 345; llyfr rhagorol sydd newydd ei gyhoeddi, ac yn llawn o ddyddordeb swynol.

hwnnw fuasai darparu cronfa i gynnal pregethwyr a gweinidogion yn eu hen ddyddiau. Mae gwir angen am i ryw un gymeryd y gwaith hwn mewn llaw. Ie, rhaid ei wneud os ydyw y Cyfundeb i gael ei osod ar dir cadarn, ac i lwyddo yn y dyfodol. Gwyn fyd na wnai rhyw Dafydd a'i dywysgogion, chwedl Mr. Morgan, ymgymeryd â'r gwaith hwn ond os nad ellir "ymddiried mewn tywysogion," gwyn fyd na chodid ryw Edward Morgan yn y Cyfundeb i ddwyn hyn oddiamgylch. Ond darllen y gyfrol hon yn ystyriol ni ryfeddem pe gwelem ysbrydiaeth yn disgyn ar ryw un yn meddu ar zel, dawn, a chymhwysder neillduol Mr. Morgan i'r gwaith, ac yn cael ei benodi yn swyddogol i'w gyflawni.

Difyr iawn cyn rhoi ein hysgrifell heibio fuasai myned dros brif ddigwyddiadau bywyd Mr. Morgan o'i enedigaeth mewn bwthyn bychan tô gwellt, yn y pentref ym mhlwyf Llangurig yn agos i Lanidloes, yn un o ddeg o blant, ei lafur i gasglu gwybodaeth, ei dueddfryd crefyddol er yn foreu, ei ymuniad â'r eglwys, ei lafur gyda'r Ysgol Sabbothol, ei ddiwydrwydd gyda'i wersi yn yr ysgol ddyddiol, a'r lles mawr a dderbyniodd trwy y Cymdeithasau Llenyddol a Chymroaidd. Cafodd fel hyn gyfleusdra i arfer y dawn siarad oedd mor naturiol iddo; daeth yn areithiwr dirwestol hyawdl, ac yr oedd yn amlwg ei fod ar y ffordd i'r pwlpud.

Aeth i Athrofa y Bala pan yn 22 mlwydd oed, a chafodd ei addysg yn rhad; ac nid hawddfyd didor oedd ei fywyd yno, er cymaint oedd ei bleser yn casglu gwybodaeth, ond "pryderai," medd Mr. Ellis, “am ei luniaeth yno, ac nid oes amheuaeth na wybu yno lawer adeg pa beth oedd prinder, gan nad oedd wedi dechreu pregethu, ac felly ni ddygai y Sabbothau gymaint a swllt i mewn iddo." Ond er nad oedd yn pregethu ar y Sabboth, nid oedd yn ddiwaith. Penodwyd ef yn athraw yn yr Ysgol Sul, ac ym mysg ei ddisgyblion yr oedd y meddyliwr dwfn, a'r un a adwaenid wedi hynny fel y Parch. David Charles Davies, M.A. Difyr ydyw ei ddilyn oddiyno i'r Dyffryn, i'r hwn le yr aeth i gadw ysgol, ac y cawn ef y fath athraw rhagorol. Ceir mai yno y dechreuodd bregethu, ac iddo droi allan yn bregethwr nodedig yn bur fuan. Aeth yn ei ol i'r Bala yn 1843, a chawn ei hanes yn dychwelyd i'r Dyffryn yr un flwyddyn, ac yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa. Bu am ddwy flynedd yn y Dyffryn yn cadw ysgol; aeth gyda Richard Humphreys ar daith i'r Deheudir, a chawn ef yn pregethu yng Nghymdeithasfa Woodstock. Ordeiniwyd ef yn y Bala yn 1847, a symudodd i Ddolgellau i fugeilio eglwys yno: pa fath fugail ydoedd yr ydym wedi sylwi eisoes. Dychwelodd i'r Dyffryn, ac fe briododd Jeanette, merch y Parch. Richard Humphreys, a chan fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiad penderfynodd fyw ar yr hyn a gaffai am bregethu. "Mawr oedd ei ffydd." Ie, ond dynion mawr eu ffydd

sydd yn cyflawni gwrhydri bob amser. Ni fu erioed briodas ddedwyddach, medd Mr. Ellis, a hawdd credu hynny wrth edrych ar y wyneb caredig yn y darlun ar td. 285. Bu ei briod, pan yn eneth ddeg oed, yn ei ysgol. Ni chafodd Mr. Morgan orffen ei "fis mel" cyn cael ei ddanfon am dymhor i Lundain i ofalu am yr eglwysi yno, a hynny ar adeg y geri marwol.

Ond nis gallwn fyned dros holl helyntion bywyd Mr. Morgan fel y croniclir hwynt gan Mr. Ellis. Gwna hynny mewn modd manwl a thra dyddorol. Cawn ein hunain yn llaw y cofiantydd yng nghwmni difyr hen bregethwyr enwog y Cyfundeb, a hen flaenoriaid llawn mor enwog yn y cylchoedd y troent iddynt, a chyflwynir ni i'w cymdeithas, ac adroddir ychydig o'u hanes. Fel hyn fe ddilynodd Mr. Morgan fywyd llafurus pregethwyr Methodistaidd drwy ei oes yn llawn helyntion, ac yn ymladd âg afiechyd yn barhaus. Gorfu arno fyned i "dir neillduaeth" am dymhor fwy nag unwaith er mwyn cadw angeu draw am ychydig, ac i enill nerth i ymladd brwydrau ei fywyd. Ei ysbryd di-ildio oedd mewn gwirionedd yn cadw bywyd ynddo. Pan fu farw Mrs. Humphreys, cawn ei fod wedi rhoi i fyny y tŷ-y "Lluest-dŷ," yn yr hwn y trigai, ac wedi myned i fyw at ei dad-yn-nghyfraith, Mr. Richard Humphreys, yn y Faeldref. Ond nid ffarmwr yn pregethu oedd Mr. Morgan, ond pregethwr yn ffarmio, a'r pregethwr oedd yn oruchaf. Amaethu y rhan bwysicaf o ddyr. oedd ei waith mawr ef bob amser. teithio am dymhor i ddadleu dros y Feibl Gymdeithas; bu yn olygydd y cyhoeddiad misol a elwir y "Methodist," ac ysgrifennodd erthyglau rhagorol iddo, a hefyd i'r TRAETHODYDD a'r "Gwyddoniadur." Safai yn ddewr fel Rhyddfrydwr mewn etholiadau i ddadleu dros ei egwyddorion; ac fel hyn, trwy ddilyn bywyd o lafur didor o blaid yr hyn a ystyriai yn iawnder diwyro, enillodd ddylanwad mawr a pharch cyffredinol. Cyrhaeddodd yr anrhydedd swyddol uchaf a feddai y Cyfundeb ei roi arno, trwy ei ddewis, yn 1870, yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol.

Bu yn

Nid oes gennym, wrth derfynu ein hysgrif, ond dweyd eto fod Mr. Ellis wedi gosod y Cyfundeb Methodistaidd o dan rwymau mawr iddo trwy ddwyn allan y llyfr rhagorol hwn. Pe buasem yn myned i chwilio am feiau yn y llyfr, hwyrach y buasem yn enwi y gorfanylder hwnnw gyda mân ddigwyddiadau, a'r dyfyniadau mynych o benderfyniadau Cymdeithasfaoedd a Chyfarfodydd Misol yn y geiriau eu hunain. Ond gwn y gellid dadleu mai dyma un o ragoriaethau y llyfr. Dichon hynny fod os cael adroddiad noeth a chywir o bopeth oedd yr amcan, ond y mae yn rhaid addef fod hynny yn gwneud y llyfr i fesur yn llai swynol i'r cyffredin o ddarllenwyr, na phe buasai yr awdwr yn rhoi cynhwysiad y gwahanol benderfyniadau yn ei eiriau ei hun.

Ond dyna. Nid ydym mewn tymher i feirniadu. Mae yr awdwr wedi rhoi cymaint o bleser i ni wrth ddarllen y Coflant fel nas gallwn ond dweyd ein bod o galon yn ddiolchgar iddo am dano. ELBAZAR Roberts.

« PreviousContinue »